Mary Owen (emynyddes)

Oddi ar Wicipedia
Mary Owen
Ganwyd1796 Edit this on Wikidata
Llansawel Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mai 1875 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethemynydd Edit this on Wikidata
PlantMary Ann Davies Edit this on Wikidata

Roedd Mary Owen (179626 Mai 1875) yn emynyddes Gymraeg.

Fe'i ganwyd fel Mary Rees ym yn Llansawel. Ei rhieni oedd Daniel and Mary Rees.[1][2] Roedd ei thad yn  ddiacon, a chynhaliwyd gwasanaethau crefyddol yng nghartref y teulu.

Roedd Owen yn emynyddes doreithiog. Ymhlith yr emynau a ysgrifennodd mae "Caed modd i faddeu 'meiau", "Y gareg a dorwyd o'r mynydd", "Fe dderfydd fy ngofidiau", a "Fe gân y gwaredigion". Cyhoeddwyd casgliad o emynau Owen, Hymnau ar Amryw Destunau, mewn pedwar argraffiad, y cyntaf yn 1839. Ceir cyflwyniad i'r casgliad gan y Parch. William Williams (Caledfryn).

Bu Owen yn briod ddwywaith. Roedd ei gŵr cyntaf, Thomas Davies, yn llongwr. Roedd ei hail ŵr, Robert Owen, yn weinidog Cynulleidfaol.

Bu farw Owen ar 26 Mai 1875. Fe'i claddwyd yn Llansawel.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Roberts, Thomas Rowland; Williams, Robert (1908). Eminent Welshmen (yn Saesneg). Educational Publishing Co. t. 383.
  2. Rees, Thomas Mardy. "Owen, Mary". Dictionary of Welsh Biography. Cyrchwyd 2016-04-08.

Darllen pellach[golygu | golygu cod]

  • Elfed, "Mrs. Mary Owen", Y Geninen (Ceninen Gŵyl Ddewi: argraffiad arbennig, 1903), tt. 17-20 (Cymraeg)
  • J. Seymour Rees, "Mary Owen, yr emynyddes" (PDF), Y Llenor 25 (1946), tt. 68-75 (Cymraeg)
  • Branwen Jarvis, "Mary Owen yr emynyddes" (PDF), Y Traethodydd 143 (1988), tt. 45-53 (Cymraeg)