Martin, Swydd Lincoln

Oddi ar Wicipedia
Martin, Swydd Lincoln
Mathpentref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolArdal Gogledd Kesteven
Daearyddiaeth
SirSwydd Lincoln
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau53.1245°N 0.3254°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04005813 Edit this on Wikidata
Cod OSTF121599 Edit this on Wikidata
Map

Pentref a phlwyf sifil yn North Kesteve, Swydd Lincoln, Dwyrain Canolbarth Lloegr, ydy Martin.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Gogledd Kesteven. 5 milltir (8 km) i'r dwyrain o'r pentref mae Woodhall Spa a 3 (5 km) milltir i'r gorllewin mae Metheringham, ac i'r de o Martin mae pentref Timberland.

Ceir ffen (math o wlyptir) i'r dwyrain ohono lle rhed Afon Witham. Draeniwyd y gwlyptir sydd i'r dwyrain o'r pentref a bellach mae yno glwb a maes golff a fferm bysgod coi.

Yng Nghyfrifiad 2021 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 979.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. British Place Names; adalwyd 10 Medi 2018
  2. City Population; adalwyd 23 Chwefror 2023
Eginyn erthygl sydd uchod am Swydd Lincoln. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.