Marchnad Abertawe
![]() | |
Math | adeilad, marchnad ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.618°N 3.95°W ![]() |
![]() | |
Lleolir Marchnad Abertawe sef marchnad dan do fwyaf Cymru yng nghanol dinas Abertawe.[1] Gorchuddir y farchnad gan do ffram ddur bwaog ac mae hwnnw wedi ei orchuddio gan ddur a gwydr. Adeiladwyd y farchnad bresennol gan Percy Edwards ym 1959-1960. Dyma'r bedwaredd farchnad i gael ei hadeiladu ar y safle yn ystod y ddwy ganrif ddiwethaf. Roedd y farchnad flaenorol ar y safle hwn wedi bod yno ers 1894 a chafodd ei dinistrio yn ystod y Blitz yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Mae'r safle wedi cael ei defnyddio fel marchnad ers yr Oesoedd Canol. Yn ymylu ar y farchnad, ceir Canolfan Siopa'r Quadrant.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/02/Swansea_Market3.jpg/250px-Swansea_Market3.jpg)
Gwerthir amrywiaeth o nwyddau yn y farchnad, o ffrwythau a llysiau ffres, i gig, pysgod a byrbrydiau a cheir stondinau a caffis yno sy'n gwerthu danteithion lleol a rhyngwladol fel selsig Almeinig, bara lawr Cymreig a chocos o Benclawdd.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Marchnad Abertawe (gwefan swyddogol) Archifwyd 2009-03-04 yn y Peiriant Wayback.
- SwanseaHeritage.net Marchnad Abertawe Archifwyd 2007-09-27 yn y Peiriant Wayback.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan swyddogol Marchnad Abertawe Archifwyd 2009-03-04 yn y Peiriant Wayback.. Adalwyd 10-05-2009