Maen y Brenin Donyerth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
King-donierts-stone.jpg
Yr Hanner Carreg Arall (chwith) a Maen y Brenin Donyerth (dde) yn 2007
Data cyffredinol
GweithredwrEnglish Heritage Edit this on Wikidata
RhanbarthCernyw Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.english-heritage.org.uk/visit/places/king-donierts-stone/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Maen y Brenin Donyerth (Cernyweg: Menkov Donyerth Ruw) yw dau ddarn o groes addurnedig o'r 9fed ganrif, wedi'u lleoli ger St Cleer, Gwaun Bodmin, Cernyw . Credir bod yr arysgrif yn coffáu Donyerth, Brenin Cernyw a fu farw tua 875.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn y bumed ganrif, daethpwyd â Christnogaeth i Gernyw gyntaf gan fynachod o Gymru ac Iwerddon. Credir bod y cenhadon cynnar wedi codi croesau pren i ddangos lleoedd yr oeddent wedi ennill buddugoliaethau i Grist ynddynt. Ymhen amser sancteiddiwyd y lleoedd hyn a disodlwyd y croesau pren gan rai gwnaethpwyd â charreg.

Y safle[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r safle'n cynnwys olion dau ddarn o siafft croes gwenithfaen o'r 9fed-11eg ganrif a thramwyfa dan ddaear a siambr siâp croes o dan y croesau y credir eu bod naill ai'n weddillion gwaith tun neu'n fetws posibl.[1] Y groes ogleddol, a elwir yn "Faen Donyerth" yw ag uchder o 1.37m (4 tr. 6 m.) gyda phaneli o addurno plethedig ar dair ochr ac arysgrif doniert rogavit pro anima wedi'i gerfio mewn sgript hanner wnsial neu ynysig.[1] Cyfieithiad yr arysgrif yw "Mae Doniert wedi gofyn [am i hyn gael ei wneud] er mwyn ei enaid".[2] Credir bod yr arysgrif yn cyfeirio at y brenin lleol "Dumgarth" (neu'r "Dwingarth"), Donyerth yn y Gernyweg, a gofnodir yn y cronicl cynnar o Gymru a elwir yr Annales Cambriae , boddwyd tua 875 OC.[1][2] Mae ganddo slot mortais a phlinth yn y gwaelod.[1]

Mae'r groes ddeheuol, y cyfeirir ati weithiau fel y "Hanner Maen Arall", sydd ag uchder o 2.1 m (6 tr. 11 m.) gyda phanel o addurniad plethedig ar yr wyneb dwyreiniol, slot mortais wedi torri ar y brig a phlinth ar y gwaelod.[1]

Cloddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1849 cynhaliodd Cymdeithas Bensaernïol Esgobaeth Caerwysg gloddiadau o amgylch y cerrig a darganfod claddgell gudd oddi tanynt. Cyhoeddodd Mr Charles Spence yn Transition of that Society bapur o'r enw 'Iter Cornubiense' lle mae'n manylu ar drafodion y gwaith. 'Ar ôl codi carreg Donyerth a'i gosod i fyny, màs o wenithfaen heb fod yn llai na dwy dunnell a hanner mewn pwysau, cyfarwyddwyd y gweithwyr i gloddio i lawr wrth ochr y monolith arall. 'Ar ôl cyrraedd dyfnder o oddeutu wyth neu naw troedfedd darganfuwyd twll. Yma fe ddaethon nhw o hyd i gladdgell croesffurf ddeunaw troedfedd o hyd o'r dwyrain i'r gorllewin ac un ar bymtheg o'r gogledd i'r de, roedd lled y gladdgell oddeutu pedair troedfedd. Roedd yr ochrau yn berpendicwlar ac roedd y to yn grwn a phob un wedi'i lyfnhau ag offeryn ac mor wastad ag y byddai natur arw'r graig noeth yn caniatáu.' Daeth y dynion a gyflogwyd ar gyfer y dasg hon o fwynglawdd Bre Garn Soth (South Caradon Mine) . Adroddwyd bod y cloddwyr wedi dweud nad oedd yn 'ddim byd ond hen waith', mewn geiriau eraill gweithiau mwynglawdd hynafol.[3]

Mae'r siambr tanddaearol naddwyd o'r graig yn cychwyn fel cyntedd tua 8 metr i'r de-ddwyrain o'r croesau, yn troi'n dwnnel ac yn gorffen fel siambr groesffurf o dan y croesau.[1] Nid yw'r berthynas rhwng y siambr danddaearol a'r croesau yn hysbys.[2]

Rheolir y safle gan Ymddiriedolaeth Treftadaeth Cernyw ar ran English Heritage .[4] Gall cerbydau barcio mewn cilfan sy'n gyfagos i'r safle, mae mynediad am ddim a gellir ymweld â'r safle ar unrhyw adeg resymol yn ystod oriau golau dydd.[5]

Gweld hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Colofn heneb gyfoes Eliseg yn nheyrnas Powys, Cymru

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Scheduled Monument description quoted in Pastscape
  2. 2.0 2.1 2.2 History and research on King Doniert's Stone: English Heritage
  3. The Antiquarian, Volume 2. Page 14
  4. "Index, Sites Managed and Cared for by Cornwall Heritage Trust for English Heritage UK". cornwallheritagetrust.org. 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 13 June 2012. Cyrchwyd 25 April 2012.
  5. "King Doniert's Stone". English Heritage. Cyrchwyd 13 August 2016."King Doniert's Stone". English Heritage. Retrieved 13 August 2016.