Macedonio Fernández

Oddi ar Wicipedia
Macedonio Fernández
Ganwyd1 Mehefin 1874 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 1952 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Colegio Nacional de Buenos Aires
  • Prifysgol Buenos Aires Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, bardd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, nofel, stori fer, poetic prose, traethawd Edit this on Wikidata
PlantAdolfo de Obieta Edit this on Wikidata

Llenor Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Macedonio Fernández (1 Mehefin 187410 Chwefror 1952) sy'n nodedig am y dylanwad a gafodd ar Jorge Luis Borges, un o feistri llên yr Ariannin.

Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin. Ysgrifennodd straeon byrion, barddoniaeth, nofelau, llythyrau, ac ysgrifau. Cyferbynnir ei gynnyrch llenyddol yn aml â gwaith Leopoldo Lugones o ran estheteg, ac am y rheswm hwnnw cafodd ei fabwysiadu gan y mudiad ultraismo yn y 1920au. Cyhoeddwyd y mwyafrif o'i weithiau wedi ei farwolaeth, gan gynnwys y nofel arbrofol Museo de la novela de la Eterna (1967). Bu farw yn Buenos Aires yn 77 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Enrique Foffani, "Fernández, Macedonio" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain; Routledge, 2004), t. 204.