Lyd (locomotif)
Enghraifft o'r canlynol | dosbarth o locomotifau |
---|---|
Math | locomotif tanc |
Gwneuthurwr | Gweithdy Boston Lodge |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae Lyd yn locomotif cledrau cul, sy’n gweithio ar Reilffordd Ffestiniog a Rheilffordd Eryri. Cwblhawyd Lyd yn 2010, ac mae’n gopi o locomotif y Rheilffordd Lynton a Barnstaple.[1]
Adeiladu
[golygu | golygu cod]Mae Lyd yn copi o ‘Lew’, un o locomotifau gwreiddiol y Lynton a Barnstaple, rheilffordd y caewyd ym 1935. Mae posibiliad bod y locomotif gwreiddiol yn dal i fodoli yn Ne America, felly dewiswyd enw newydd. Dechreuodd y prosiect yng Nghernyw ond symudwyd y gwaith adeiladu i Weithdy Boston Lodge ym Mhorthmadog. Gwnaethpwyd gwaith ar y siasi gan ESCA Engineering yn Wigan ym 1999. Adeiladwyd boeler gan Israel Newton yn Bradford o 2000 ymlaen, yn costio £36,000. Cyrhaeddodd y boeler Iard Minffordd ar 2 Tachwedd 2002. Cynlluniwyd cab i ffitio Rheilffordd Ffestiniog. Dangoswyd Lyd yn nigwyddiad ‘Quirks & Curiosities’ ym Mai 2010, a symudodd y locomotif yn annibynnol ar 5 Awst 2010. Dangoswyd y locomotif yn ystod penwythnos ‘WHR Superpower’ ym Medi 2010. Aeth Lyd i Reilffordd Stêm Launceston a Rheilffordd Lynton a Barnstaple yn ystod Medi 2010[2]. Ym mis Rhagfyr 2010 ailbeintiwyd Lyd yn lifrai [[Rheilffordd Brydeinig gyda bathodyn cynnar a’r rhif 30190. Ym mis Medi 2011ailbeintiwyd y locomotif yng ngwyrdd y Rheilffordd Deheuol a’r rhif E190. Newidiwyd y locomotif i ddefnydd glo ym mis Rhagfyr.[3]
Locomotifau eraill
[golygu | golygu cod]Bwriadir adeiladu 4 locomotif arall, seiliadig ar Lyd. Adeiladir 2 ohonynt, ac archebir darnau ar gyfer y 2 arall, lle mae’n rhatach i’w wneud. Bydd ‘Yeo’ ac ‘Exe’ y pâr cyntaf; adeiladir ‘Exe’ yng Ngweithdy Boston Lodge.[4]
-
Lyd a thrên yn pasio Dduallt
-
Lyd ym Mhorthmadog