Ludovico Vicentino degli Arrighi

Oddi ar Wicipedia
Ludovico Vicentino degli Arrighi
Ganwydc. 1475 Edit this on Wikidata
Cornedo Vicentino Edit this on Wikidata
Bu farw1527 Edit this on Wikidata
Galwedigaethteipograffydd Edit this on Wikidata
Tudalen o La Operina Arrighi

Ysgrifennydd yn Llys y Pab a dylunydd teip yn ystod y Dadeni oedd Ludovico Vicentino degli Arrighi (tua 14751527?).

Ychydig a wyddys am ei fywyd. Tua 1510 roedd yn llyfrwerthwr yn Rhufain. Erbyn 1515 fe'i cyflogwyd fel ysgrifennydd yn y Cancelleria Apostolica (adran Llys y Pab) yn 1513. Yn 1522 creodd bamffled dylanwadol ar lawysgrifen italig o'r enw La Operina, sef y llyfr cyntaf a neilltuwyd i ysgrifennu'r sgript cancelleresca corsiva. Argraffwyd y gwaith hwn o 32 o dudalennau gan gyfres o dorluniau. Hwn oedd y cyntaf o sawl gyhoeddiad o'r fath.

Trodd at argraffu yn 1523. Sefydlodd gwmni argraffu gyda'r ysgythrwr a'r argraffydd Lautizio Perugino (Lautizio di Bartolomeo dei Rotelli). Dyluniodd Arrighi ei deipiau italig ei hun ar gyfer ei waith; efelychwyd y rhain yn helaeth. Gwerthfawrogwyd y gweithiau a argraffwyd gan y cwmni yn fawr gan y cerflunydd Benvenuto Cellini. Dyddiwyd ei argraffiad olaf ychydig cyn Anrhaith Rhufain (6 Mai 1527), pan laddwyd ef, yn ôl pob tebyg.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

  • La operina di Ludouico Vicentino, da imparare di scriuere littera cancellarescha (Rhufain, 1522)
  • Il modo de temperare le penne con le uarie sorti de littere ordinato per Ludouico Vicentino (Rhufain, 1523)

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]