Lucille Ball
Gwedd
| Lucille Ball | |
|---|---|
| Ganwyd | Lucille Désirée Ball 6 Awst 1911 Jamestown |
| Bu farw | 26 Ebrill 1989 Canolfan Feddygol Cedars-Sinai, Los Angeles |
| Man preswyl | Wyandotte, Anaconda, Trenton, Celoron, Jamestown, Dinas Efrog Newydd |
| Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
| Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, digrifwr, cynhyrchydd teledu, swyddog gweithredol stiwdio ffilm, actor, cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, model, canwr, person busnes, cyfarwyddwr |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol UDA |
| Tad | Henry Ball |
| Mam | Desiree Hunt |
| Priod | Desi Arnaz, Gary Morton |
| Plant | Desi Arnaz, Jr., Lucie Arnaz |
| Gwobr/au | Medal Rhyddid yr Arlywydd, Anrhydedd y Kennedy Center, 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod, Gwobr Crystal, Cwpan Arian Merch y Flwyddyn y Los Angeles Times, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Actores mewn Cyfres Gomedi, Gwobr Primetime Emmy i'r Prif Actores mewn Cyfres Gomedi, Seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Menyw 'Hasty Pudding' y Flwyddyn |
| Gwefan | http://www.lucy-desi.com/ |
| llofnod | |
Actores ffilm a theledu, digrifwr, model, a phrif weithredwr stiwdio o'r Unol Daleithiau oedd Lucille Désirée Ball (6 Awst 1911 – 26 Ebrill 1989). Hi oedd seren y comedïau sefyllfa I Love Lucy, The Lucy–Desi Comedy Hour, The Lucy Show, Here's Lucy a Life With Lucy. Bu ganddi un o yrfaoedd hiraf Hollywood.

Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Ball yn Jamestown, Efrog Newydd, yn ferch i Henry Durrell Ball a Désirée "Dede" Evelyn (Née Hunt) ei wraig.
Bu Ball yn ddisgybl ar y cyd â'r actor Bette Davis yn y John Murray Anderson School for the Dramatic Arts Efrog Newydd, heb ddisgleirio fel efrydydd addawol.