Lough Erne

Oddi ar Wicipedia
Lough Erne
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Gogledd Iwerddon Gogledd Iwerddon
Arwynebedd105.1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr45 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.4826°N 7.8062°W Edit this on Wikidata
Hyd90 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Dau lyn cysylltiedig yn Swydd Fermanagh, Gogledd Iwerddon yw Lough Erne (Gwyddeleg: Loch Éirne). Dyma'r system llynnoedd ail fwyaf yng Ngogledd Iwerddon a'r pedwerydd fwyaf yn Iwerddon gyfan. Ceir sawl hanesyn am Lough Erne ym mytholeg Iwerddon; mae'n debyg mae duwies Geltaidd - Ériu efallai - sy'n rhoi ei enw i'r llyn. Hyd y llyn mwyaf yw 26 milltir (42 km) gyda'r un llai yn ymestyn am 12 milltir (19 km).

Mae'r llynnoedd yn rhan o Afon Erne, sy'n llifo oddi yno i Gefnfor yr Iwerydd. Mae'r llyn deheuol yn llai ac yn cael ei alw yn Lough Erne Uchaf (neu 'Deheuol'). Gelwir y llyn mwyaf yn Lough Erne Isaf (neu 'Gogleddol'). Gorwedd tref Enniskillen ar y rhan fer o afon sy'n cysylltu'r ddau lyn. Ceir 154 ynys a nifer o faeau bach ar y llynnoedd.

Cynhaliwyd 39ain Uwchgynhadledd yr G8 o 17 i 18 Mehefin 2013 yn Lough Erne Resort ar lan y llyn.

Lough Erne Isaf
Lough Erne Uchaf
Eginyn erthygl sydd uchod am Ogledd Iwerddon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.