Llyn Tekapo

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Llyn Tekapo
Lake Tekapo 01.jpg
Llyn Tekapo
Lleoliad Mackenzie District, Canterbury Region, Ynys y De
Cyfesurynnau 43°53′S 170°31′E / 43.883°S 170.517°E / -43.883; 170.517Cyfesurynnau: 43°53′S 170°31′E / 43.883°S 170.517°E / -43.883; 170.517
Prif fewnlif Afon Godley (i'r gog.), Afon Macauley (i'r gog.), Afon Mistake (gor.), Afon Cass River (gor.)[1]
Prif afon Afon Tekapo
Aber neu fasn 1,463 km2 (565 mi sg)[1]
Aber neu fasn Seland Newydd
Hyd 27 kilometr (17 milltir)[1]
Lled 6 km (3.7 mi) (uchafswm), 3.5 km (2.2 mi) (cymedr)[1]
Arwynebedd 87 km2 (34 mi sg) (haf), 82 km2 (32 mi sg) (gaeaf),[1]
Dyfnder cyfartalog 69 m (226 ft)[1]
Dyfnder (mwyaf) 120 m (390 ft)[1]
Cyfaint y dŵr 6km³ (4.9×106 acr·tr)[1]
Uchder lefel y dŵr 710 m (2,330 ft)
Anheddiad/au Lake Tekapo (tref)
Ffynhonnell [1]

Saif Llyn Tekapo ar Ynys y De, Seland Newydd; mae'n 83 km sgwâr (32 milltir sg) ac 710 metr (2,330 tr) yn uwch na lefel y môr. Llifa Afon Godley o gyfeiriad y gogledd i'r llyn, dyma afon sydd a'i tharddiad yn Alpau Deheuol Seland Newydd (Māori: Kā Tiritiri-o-te-Moana). Mae'r llyn yn rhan o 'Warchodfa Wybren Dywyll' UNESCO ac yn atyniad twristaidd poblogaidd gyda nifer o westai mawr yn y dref a elwir hefyd yn 'Llyn Tekapo'.[2].

At lan y llyn saif Eglwys y Bugail Da,[3] a adeiladwyd ym 1935 ac a gynlluniwyd gan R.S.D.Harman. Gerllaw ceir 'Cerflun y Ci Defaid', a gynlluniwyd gan Elliott Innes o Kaikoura.

Tekapo02LB.jpg
Eglwys y Bugail Da
Cerflun y Ci Defaid

Ynni o'r dŵr[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r llyn yn cyflenwi dŵr i orsafoedd pŵer Tekapo 'A' a 'B'.

Yn 1938 cychwynwyd ar y gwaith o greu pwerdy i gynhyrchu trydan o ynni'r dŵr; gohiriwyd y gwaith yn 1942 oherwydd y Rhyfel ond cwbwlhawyd "Tekapo A" yn 1951.

Dargyfeirir llif yr afon, bellach, drwy dwnel 1.4-kilometr (4,600 ft) o dan y dref ac i'r pwerdy, ac yna'n ôl i'r afon. Yn y 1970au crewyd argaeau drwy Seland Newydd ac mae'r afon bellach yn llifo i gamlas 26-kilometr (16 mi) ac i fewn i bwerdy Tekapo B ar lan Llyn Pukaki.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]