Llyn Albert
Gwedd
Math | llyn |
---|---|
Enwyd ar ôl | Albert o Sachsen-Coburg a Gotha |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Wganda, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo |
Arwynebedd | 5,270 km² |
Uwch y môr | 619 metr |
Cyfesurynnau | 1.68°N 30.92°E |
Hyd | 160 cilometr |
Un o Lynnoedd Mawr Affrica yw Llyn Albert neu Albert Nyanza, ar un adeg Llyn Mobutu Sese Seko. Mae rhannau o’r llyn yng ngwledydd Wganda a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo
Gydag arwynebedd o 5,300 km², Llyn Albert yw'r seithfed llyn mwyaf o lynnoedd cyfandir Affrica. Mae tua 160 km o hyd a 30 km o led. Nid yw’n ddwfn iawn: tua 51 m yn y man dyfnaf. Llifa afon Nîl Wen drwy'r llyn. Enwyd y llyn gan y fforiwr Samuel Baker yn 1864, ar ôl y Tywysog Albert, gŵr y Frenhines Victoria.