Llynnoedd Mawr Affrica

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Llynnoedd Mawr (Affrica))
Llynnoedd Mawr Affrica
Map o Lynnoedd Mawr Affrica.
Mathgrŵp o lynnoedd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBwrwndi, Sambia, Cenia, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Malawi, Mosambic, Rwanda, Tansanïa, Wganda, Ethiopia Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau8°S 35°E Edit this on Wikidata
Map

Rhwydwaith o lynnoedd ar hyd ddeheubarth Hollt Dwyrain Affrica yw Llynnoedd Mawr Affrica (Swahili: Maziwa Makuu). Yr wyth llyn mwyaf yn nhermau arwynebedd yw Victoria (68,870 km2), Tanganica (32,600 km2), Malawi neu Nyasa (29,500 km2), Turkana neu Rudolf (6,405 km2), Albert (5,299 lm2), Kivu (2,700 km2), Rukwa (5,760 km2), ac Edward (2,325 km2).

Yn neheubarth y Dyffryn Hollt Mawr mae Llyn Malawi, a ddraenir gan Afon Zambezi. Ar hyd Orllewin yr Hollt saif Llynnoedd Tanganica a Kivu o fewn dalgylch Afon y Congo, a Llynnoedd Edward ac Albert sydd yn llifo i Afon Nîl. Mae llynnoedd Dwyrain yr Hollt, ac eithrio Llyn Turkana, yn llai o faint na llynnoedd y gorllewin ac maent yn ffurfio sawl dalgylch afon mewnwladol ar wahân. Lleolir Llyn Victoria, llyn dŵr croyw ail fwyaf y byd yn nhermau arwynebedd, ar grychiad bas i lawr rhwng ucheldiroedd Gorllewin yr Hollt a'r Dwyrain.[1]

Mae pob un o'r wyth llyn mwyaf yn croesi ffiniau rhyngwladol, ac eithrio Llyn Rukwa a leolir yn gyfan gwbl y tu mewn i ffiniau Tansanïa. Rhennir Llyn Turkana rhwng Cenia ac Ethiopia; Llyn Victoria rhwng Wganda, Tansanïa, a Chenia; Llynnoedd Albert ac Edward rhwng Wganda a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo; Llyn Kivu rhwng Rwanda a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo; Llyn Tanganica rhwng Tansanïa, Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, Bwrwndi, a Sambia; a Llyn Malawi rhwng Malawi, Mosambic, a Thansanïa.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) East African lakes. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Hydref 2021.