Llyfrgell Genedlaethol Ynysoedd Ffaröe

Oddi ar Wicipedia
Llyfrgell Genedlaethol Ynysoedd Ffaroe
Mathllyfrgell genedlaethol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1979 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadTórshavn Edit this on Wikidata
SirTórshavn Municipality Edit this on Wikidata
GwladBaner Ynysoedd Faroe Ynysoedd Faroe
Cyfesurynnau62.0069°N 6.77827°W Edit this on Wikidata
Map
Das neue Bibliotheksgebäude in Tórshavn.
Cofeb i'r iaith Ffaröeg, Móðurmálið, gan Janus Kamban ar fynedfa ddwyreiniol oddi ar Býarpark. Gwelir y Llyfrgell Genedlaethol yn y cefndir

Llyfrgell Genedlaethol Ynysoedd Ffaröe (Ffaröeg: Føroya Landsbókasavn) yw llyfrgell genedlaethol Ynysoedd Ffaröe, tiriogaeth hunanlywodraethol o fewn Teyrnas Denmarc. Mae'r adeilad wedi'i leoli ym mhrifddinas yr Ynysoedd, Tórshavn ar JC Svabosgøta 16, i'r dde ger Býarpark.

Cennad[golygu | golygu cod]

Mae llyfrgell y wladwriaeth yn gartref i'r casgliad mwyaf o bopeth ar:

  • a ysgrifennwyd yn yr iaith Ffaröeg
  • a ysgrifennwyd neu gyfieithwyd gan bobl Ffaröeg mewn i ieithoedd eraill
  • cyhoeddiadau am yr Ynysoedd gan awduron tramor

Mae'n llyfrgell gyhoeddus ac yn llyfrgell academaidd. Yn 2011 fe’i hunwyd ag Archifau Cenedlaethol Ynysoedd Ffaröe, sydd hefyd wedi’i leoli yn y brifddinas.

Hanes[golygu | golygu cod]

Hen adeilad y llyfrgell o 1830, ar ôl llun gan Flora Heilmann (1927)

Mae hanes y llyfrgell yn mynd yn ôl i 1828, pan gychwynnodd beili Denmarc ar yr Ynysoedd, Christian Ludvig Tillisch (1825–30), ynghyd â’i gydweithiwr, yr archwilydd Jens Davidsen (1803-1878), y cyntaf i bobl yr ynys a oedd yn gymharol ynysig ar y pryd, gasglu cyfrolau. Cawsant gefnogaeth weithredol gan yr hynafiaethydd o Ddenmarc, Carl Christian Rafn. Fe wnaethant sicrhau grant blynyddol gan frenin Denmarc (5 Tachwedd 1828). Helpodd unigolion preifat i sicrhau bod dros 2,000 o gyfrolau ar gael o fewn cyfnod byr.[1] I ddechrau, cafodd y llyfrgell yr enw Daneg Færø Amts Bibliotek ('Amt' yw'r gair Daneg am 'sir', gan mai sir yn rhan o Ddenmarc oedd yr Ynysoedd ar y pryd).

Yn 1830 cafodd y llyfrgell ei hadeilad cyntaf. Jens Davidsen oedd cyfarwyddwr anrhydeddus y llyfrgell o hynny hyd ei farwolaeth. Mor gynnar â 1850 roedd yn gartref i oddeutu 5,000 o gyfrolau. Rhwng 1878 a 1905 arhosodd y prosiect yn ei unfan nes i Gyngor yr Ynysoedd (ddaeth maes o law yn Senedd), y Løgting, warantu cymhorthdal. Profodd llyfrgell y wladwriaeth anterth newydd o 1921 o dan yr ieithydd Mads Andreas Jacobsen (1891–1944). Yn ystod yr amser hwn o'r anghydfod iaith Ffaröeg, datblygodd yn fan cyfarfod diwylliannol i feirdd a gwleidyddion cenedlaethol. Yn 1931 symudodd i adeilad arall.

Yn 1948 cafodd yr ynysoedd Refferendwm Hunanlywodraethol gan ennill statws rhannol ymreolaethol. Gydag hyn, cynyddodd y cymhorthdal ​​o'r Løgting yn amlwg, a arweiniodd yn ei dro at gyfnod o dwf a newid yr enw'n swyddogol i un Ffaröeg, Føroya Landsbókasavn. Yn 1952, nododd deddf fod yn rhaid i bob cyhoeddwr yn Ynysoedd Ffaröe sicrhau bod pedwar copi o bob deunydd printiedig ar gael i'r llyfrgell.[1]

Ers 1979 mae'r llyfrgell wedi'i lleoli yn yr adeilad presennol ym Mharc Viðarlundin á Debesartrøð, [1] a ddyluniwyd gan y pensaer Jákup Pauli Gregoriussen.

Sefyllfa Gyfredol[golygu | golygu cod]

yn 2011, fel rhan o ymdrech i arbed costau, cyfunwyd gweinyddiaeth y Llyfrgell Genedlaethol gydag Archifau Cenedlaethol Ynysoedd Ffaröe, Amgueddfa Genedlaethol Ynysoedd Ffaröe, Amgueddfa Naturiol Ynysoedd Ffaröe a'r Labordy Bioleg Morol Kalbbak (Havlívfrøðiliga Royndarstøðin) i greu Treftadaeth Genedlaethol Ffaröe (Søvn Landsins).[2] Ond yn 2017 diddymwyd Treftadaeth Genedlaethol Ffaröe (Søvn Landsins) a daeth yr Archifau Cenedlaethol yn sefydliad annibynnol yn atebol yn uniongyrchol i'r Gweinidog Diwylliant.

Yn ogystal â'r Llyfrgell Genedlaethol, yn 2013, caed 18 llyfrgell ddinesig ac 13 llyfrgell ysgol yn Ynysoedd Ffaröe, a gyflenwir yn bennaf gan y Llyfrgell Genedlaethol. Yn ogystal, mae gan sefydliadau fel Amgueddfa Gelf Ynysoedd Ffaröe eu llyfrgelloedd eu hunain.

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 Søga og endamál Archifwyd 2010-04-13 yn y Peiriant Wayback., Um Landsbókasavnið, National Library of the Faroe Islands, archived at the Wayback Machine, 14 Rhagfyr 2013 Nodyn:In lang
  2. Faroe Islands National Heritage Archifwyd 12 April 2016[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback., Gransking.