Lloergan

Oddi ar Wicipedia
Lloergan
Enghraifft o'r canlynolgwaith neu gyfansodiad cerddorol Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1802 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1801 Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus Edit this on Wikidata
CyfansoddwrLudwig van Beethoven Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Sonata adnabyddus i'r piano gan Ludwig van Beethoven yn llonnod C leiaf, yw Sonata Rhif 14 i'r Piano, sy'n cael ei galw fel arfer yn Lloergan. Ysgrifennodd Beethoven hi ym 1801 a'i chyflwyno ym 1802 i un o'i ddisgyblion, yr Iarlles Giulietta Guicciardi. Mae'r enw poblogaidd Lloergan wedi'i seilio ar sylw a wnaed gan feirniad yn ddiweddarach, ar ôl marwolaeth Beethoven.[1]

Mae Lloergan yn un o gyfansoddiadau mwyaf poblogaidd Beethoven ar gyfer y piano, ac roedd yn ffefryn poblogaidd hyd yn oed yn ystod ei fywyd. Cyfansoddodd Sonata Rhif 14 yn ei dridegau cynnar ar ôl gorffen darn o waith comisiwn; nid oes tystiolaeth mai cael ei gomisiynu i ysgrifennu'r darn a wnaeth.

Mae tri symudiad i'r sonata:

  1. Adagio sostenuto
  2. Allegretto
  3. Presto agitato

Dechrau'r Adagio sostenuto yw rhan enwoca'r Sonata, sydd wedi'i ddefnyddio'n helaeth ym myd hysbysebion a ffilmiau:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Jones, Timothy. Beethoven, the Moonlight and other sonatas, op. 27 and op. 31. Gwasg Prifysgol Caergrawnt, pp. 19, 43 (Saesneg)