Lleuad lawn

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Roedd lleuad gorwych 14 Tachwedd 2016 356,511356,511 km (221,526 mi) i ffwrdd[1] o ganol y Ddaear, yr agosaf ers 1948. Ni fydd mor agos eto tan 2034.[2]

Lleuad lawn (neu lleuad llawn) yw'r gwedd leuad pan mae'r lleuad yn ymddangos fel petai wedi'i oleuo yn llawn o safbwynt y Ddaear. Mae hyn yn digwydd pan mae'r Ddaear wedi'i lleoli rhwng yr Haul a'r Lleuad (yn fanwl gywir, pan mae  180° o wahaniaeth yn hydredau ecliptig yr Haul a'r Lleuad). Mae hyn yn golygu bod yr hemisffer lleuadol sy'n wynebu'r ddaear - yr ochr agosaf - wedi'i oleuo'n llawn gan yr Haul ac yn ymddangos fel disg crwn, tra bod yr ochr bellaf yn dywyll. Mae lleuad llawn yn digwydd tua unwaith y mis.

Pan mae'r Lleuad yn symud i gysgod y Ddaear, ceir diffyg ar y Lleuad (neu 'eclips'). Pan fydd hyn yn digwydd, gall wyneb y Lleuad neu ran ohono ymddangos yn gochlyd oherwydd y tonfeddi gleision a plygiant goleuni'r haul trwy atmosffer y Ddaear.[3][4][5] Ar Leuad llawn yn unig y ceir diffyg ar y Lleuad ac ar bwyntiau yn ei gylchdro pan y gallai'r lleoeren basio trwy gysgod y blaned. Nid yw diffyg ar y Lleuad yn digwydd bob mis am fod cylchdro'r Lleuad yn gogwyddo 5.14° mewn perthynas a gwastad ecliptig y Ddaear; felly, mae'r Lleuad fel arfer yn pasio i'r gogledd neu'r de o gysgod y Ddaear, sydd wedi'i gyfyngu yn bennaf i'r gwastad cyfeiriol hwn. Mae diffyg ar y Lleuad yn digwydd pan mae'r lleuad llawn i'w gael o gwmpas y naill nod neu'r llall o'i gylchdro (esgynnol neu ddisgynol).  Felly, mae diffyg ar y Lleuad yn digwydd tua unwaith bob chwe mis ac yn aml tua phythefnos cyn neu ar ôl diffyg ar yr haul, sy'n digwydd yn ystod lleuad newydd o gwmpas y nod arall.

Mae'r cyfnod rhwng lleuad newydd neu lawn a'r cyfnod nesaf yr un peth, sef mis lleuadol, ar gyfartaledd yn 29.53 o ddyddiau. Felly, yn y calendrau lleuadol sydd â phob mis yn dechrau ar ddiwrnod y lleuad newydd, mae'r lleuad llawn i'w gael naill ai ar y 14eg neu'r 15fed diwrnod o'r mis lleuadol. Oherwydd bod mis calendr yn cynnwys dyddiau llawn, gall mis lleuadol fod naill ai yn 29 neu 30 diwrnod o hyd.

Lleuadau cynhaeaf neu leuadau gwŷr Iâl[golygu | golygu cod y dudalen]

Lleuad gynhaeaf. Mae ei liw oren yn cael ei achosi gan ei agosrwydd at y gorwel, ac nid yw'n unigryw i leuadau cynhaeaf.[6]

Mae "lleuad gynhaeaf" (neu "leuad hydref") a "lleuad gwŷr Iâl" yn enwau traddodiadol ar gyfer lleuadau llawn ddiwedd yr haf neu yn yr hydref, ym misoedd Medi a Hydref yn hemisffer y gogledd.  "Lleuad gynhaeaf" yw'r leuad llawn agosaf at alban Elfed (22 neu 23 Medi), a gallai fod unrhyw bryd yn ystod y pythefnos cyn neu ar ôl y dyddiad hwnnw.[7] "Lleuad gwŷr Iâl" yw'r lleuad llawn yn dilyn hynny.

Cyfeirnodau[golygu | golygu cod y dudalen]