Sgript Gothig
Math | script style |
---|---|
Rhan o | DIN 16518 |
Dechrau/Sefydlu | 11 g |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sgript yw sgript Gothig a ddefnyddiwyd yng ngorllewin Ewrop o tua 1150 hyd y 17g. Defnyddiwyd yn yr iaith Almaeneg hyd at yr 20g.[1] Yn nyddiau cynnar argraffu, sgript Gothig oedd y teip mwyaf cyffredin.[2]
Gelwir y teip weithiau'n 'Blackletter' neu 'Fraktur'. Ceir amrywiaethau o ddulliau ysgrifennu oddi fewn i sgript Gothig gan gynnwys arddulliau llawysgrifen. Yn ei plith oedd Kurrent ac yna Sütterlin a fabwysiadwyd rhwng 1915 a diwedd yr Ail Ryfel Byd.
Bu dadlau chwyrn yn ystod y 19g yn y tiroedd Almaeneg ar ba sgript neu ffont i'w ddefnyddio wrth ysgrifennu ac argraffu - y Ddadl Antiqua-Fraktur. Antiqua oedd yr arddull 'Lladin' a fabwysiadwyd gan Ffrainc a'r rhan fwyaf o Ewrop erbyn y cyfnod hwnnw. Daeth yr ysgrifen Gothig (neu Fraktur, fel y gelwid hefyd) yn symbol o genedligrwydd ac arwahanrwydd yr iaith a'r diwylliant Almaeneg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-03. Cyrchwyd 2012-05-13.
- ↑ Rockwood, Camilla (gol.). Brewer's Dictionary of Phrase and Fable, 18fed argraffiad (Caeredin, Chambers, 2009), t. 147.