Llam llyffant (tacteg)
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
Tacteg gan droedfilwyr yw llam llyffant er mwyn symud lluoedd tuag at gyrchfan a amddiffynnir gan y gelyn. Bydd un milwr, cerbyd, neu is-uned yn aros yn y fan er mwyn darparu tanio amddiffynnol, tra bydd y milwr, cerbyd, neu is-uned arall yn symud ymlaen i gymryd lleoliad tanio o'u blaen, ac yn ailadrodd y dacteg hon bob yn ail nes bydd y lluoedd yn cyrraedd eu nod.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Bowyer, Richard. Dictionary of Military Terms, 3ydd argraffiad (Llundain, Bloomsbury, 2004), t. 141.
