Llaethlys bach
| Euphorbia peplus | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Plantae |
| Ddim wedi'i restru: | Angiosbermau |
| Ddim wedi'i restru: | Ewdicotau |
| Ddim wedi'i restru: | Rosidau |
| Urdd: | Malpighiales |
| Teulu: | Euphorbiaceae |
| Genws: | Euphorbia |
| Rhywogaeth: | E. peplus |
| Enw deuenwol | |
| Euphorbia peplus Carl Linnaeus | |
Planhigyn suddlon tebyg i'r cactws yw Llaethlys bach sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Euphorbiaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Euphorbia peplus a'r enw Saesneg yw Petty spurge.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Llaeth y Cythraul, Fflamgoed Fechan.
Mae'r dail wedi'u gosod bob yn ail, ac mae'r blodau'n unrhywiol, gyda blodau gwryw a blodau benyw ar yr un planhigyn. Gall fod yn gydryw neu'n deuoecaidd.
Ecoleg a chadwraeth
[golygu | golygu cod]Bu i arolygon dros yr hanner canrif ddiwethaf o fflora y DU ddangos bod 17 allan o’r 25 rhywogaeth sy’n dangos y gostyngiad tymor-hir mwyaf yn rhai sy’n nodweddiadol neu yn gyfyngedig i gynefinoedd tir ȃr. Mae rhain yn cynnwys un neu ddwy o rywogaethau sy’n dal yn lleol-gyffredin yng Nghymru, fel Troellig yr ŷd (Spergula arvensis) a Taglys yr ŷd (Fallopia convolvulus).
Mae Cloc y dyn tlawd (Llysiau'r Cryman Anagallis arvensis) a Fflamgoed fach yr ŷd (= Corlaethlys[2]) er enghraifft yn tyfu ym mhen talar na chafodd ei chwistrellu, ar fferm ger Flemingston ym Mro Morgannwg.
Mae planhigion eraill ar y rhestr mewn peryg difrifol (PD) neu mewn peryg (P) o ddifodiant yng Nghymru, e.e., Crafanc yr ŷd (Ranunculus arvensis), Crib Gwener (Scandix pecten-veneris) a Dinodd Blynyddol (Scleranthus annuus). Mae y ‘rhestr goch’ o blanhigion sydd mewn peryg yng Nghymru hefyd yn cynnwys Gwylaeth-yr-oen llyfn (Valerianella rimosa) (PD) a Gludlys amryliw (Silene gallica) (P). Bellach mae hydnoed planhigion a ystyrid yn lled gyffredin a niferus ar un adeg, fel y Pabi coch cyffredin (Papaver rhoeas) a Melyn yr ŷd (Chrysanthemum segetum), yn llawer iawn llai amlwg yn y tirlun Cymreig erbyn hyn. Ym mysg y cnydau sydd brinaf o ran eu planhigion tir ȃr mae tatws, India corn a haidd. Bydd y rhain fel arfer erbyn hyn yn cael eu chwistrellu’n drwm ȃ chwynladdwyr a phlaladdwyr eraill, sy’n golygu na rodda y cnydau hyn gyfle i’r planhigion na’r creaduriaid gwyllt eraill a ddisgwylir eu gweld ar dir ȃr yng Nghymru[3]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Y Bywiadur Gwefan Llên Natur
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
- ↑ https://llennatur.cymru/Y-Bywiadur#Euphorbia%20exigua>Euphorbia exigua
- ↑ Hurford, C (2025) Fferm a Thyddyn, rhif 76 (2025), tud. 6-9
