Llabed y glust
| Enghraifft o: | dosbarth o endidau anatomegol, organ |
|---|---|
| Math | israniad o odre'r glust, endid anatomegol arbennig, blaen trwyn a llabedi clustiau |
| Rhan o | godre'r glust, clust |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0d6560 |
Mae llabed y glust ddynol (lobulus auriculae) wedi'i gyfansoddi o feinweoedd cysylltiol areolaidd a blongog, sydd a llai o gadernid ac elastigedd gweddill godre'r glust (strwythur allanol y glust). Mewn rhai achosion, mae rhan isaf y llabed wedi'i chysylltu ag ochr y wyneb. Gan nad yw llabed y glust yn cynnwys cartilag[1] mae ganddo gyflenwad mawr o waed a gall helpu i gynhesu'r glust a chadw cydbwysedd. Fodd bynnag, nid yw llabedau'r glust yn cael eu hystyried o unrhyw ddefnydd biolegol arwyddocaol.[2] Mae'r llabed yn cynnwys nifer o derfynau nerf, ac i rai pobl yn barth nwydus.
Yn ei lyfr The Naked Ape (1967), cyflwynodd y swolegydd Desmond Morris y ddamcaniaeth bod y llabedau wedi datblygu fel parth nwydus ychwanegol er mwyn hwyluso'r rhywioldeb estynnol oedd yn angenrheidiol yn esblygiad paru unweddog rhwng bodau dynol.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Steinberg, Avraham (2003). Encyclopedia of Jewish Medical Ethics: a Compilation of Jewish Medical Law on All Topics of Medical Interest. Jerusalem: Feldheim Publishers. p. 350.
- ↑ Popelka (31 August 1999). "Re:Why do we have earlobes, what are they for, since when?". MadSci Network. Cyrchwyd 16 Gorffennaf 2015.
- ↑ Desmond Morris The Naked Ape: A Zoologist's Study of the Human Animal Jonathan Cape, 1967 . Chapter 2, page 59 of Corgi paperback ed