Lisa Sheppard

Oddi ar Wicipedia
Lisa Sheppard
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, academydd Edit this on Wikidata

Darlithydd ac awdur yw Lisa Sheppard.

Ymunodd â Phrifysgol Caerdydd yn 2007 er mwyn astudio BA yn y Gymraeg a Llenyddiaeth Saesneg. Ar ôl derbyn gradd anrhydedd dosbarth cyntaf yn 2010, arhosodd yng Nghaerdydd i gwblhau ymchwil MPhil a oedd yn archwilio’r posibilrwydd o ddefnyddio drama lwyfan fel cyfrwng celfyddydol dwyieithog yn y Gymru gyfoes.[1]

Erbyn hyn mae Lisa yn Ddarlithydd yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd. Mae ei gwaith yn canolbwyntio ar ymdriniaeth llenyddiaeth gyfoes â phynciau megis amlddiwylliannedd, cenedligrwydd a rhywedd.[2]

Yn 2017 enillodd Lisa y Gwobr Gwerddon am yr erthygl orau a gyhoeddwyd yn cylchgrawn Gwerddon.[3]

Yn 2018 cyhoeddwyd y gyfrol Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig: Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen'.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Cymraeg". www.colegcymraeg.ac.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-11-08. Cyrchwyd 2019-11-08.
  2. "www.gwales.com - 9781786831972, Y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig: Gymru 'Ddu' a'r Ddalen 'Wen', Y - Aralledd ac Amlddiwylliannedd Mewn Ffuglen Gymreig, Er 1900". www.gwales.com. Cyrchwyd 2019-11-08.
  3. Ysgol, Dr Dylan Foster Evans Pennaeth yr. "Lisa Sheppard yn ennill Gwobr Gwerddon". Prifysgol Caerdydd. Cyrchwyd 2019-11-08.