Lifft Clogwyn Saltburn

Oddi ar Wicipedia
Lifft Clogwyn Saltburn
MathWater-powered funicular railway Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolSaltburn-by-the-Sea
Agoriad swyddogol28 Mehefin 1884 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 28 Mehefin 1884 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.5862°N 0.9707°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganBwrdeistref Redcar a Cleveland Edit this on Wikidata
Map

Rheilffordd ffwniciwlar yn Saltburn-by-the-Sea, Gogledd Swydd Efrog, Gogledd-ddwyrain Lloegr, ydy Lifft Clogwyn Saltburn (Saesneg: Saltburn Cliff Lift). Mae'n rhoi mynediad o'r dref, sy'n sefyll ar ben clogwyni, i Bier Saltburn a glan y môr. Dyma'r lifft clogwyn hynaf yn y Deyrnas Unedig sy'n cael ei bweru gan ddŵr.

Fe'i hadeiladwyd rhwng 1883 a 1884. Mae ganddo uchder o 120 troedfedd (37 m) a hyd trac o 207 troedfedd (63 m), gan arwain at inclein 71 y cant rhwng ddwy orsaf. Mae pâr o gerbydiau sy'n dal 12 o bobl, pob un â thanc dŵr 240 galwyn (1,100 L), yn rhedeg ar gledrau mesur safonol; trwy dynnu neu ychwanegu'r dŵr at eu tanciau, mae braciwr ar y brig yn rheoli symudiad y cerbydau.