LibreOffice

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
LibreOffice
LibreOffice Logo Flat.svg
LibreOffice 4.3 Impress
LibreOffice 4.3 Impress (yn Saesneg)
Awdur gwreiddiol StarDivision
Datblygwr The Document Foundation
Rhyddhad
cychwynnol
25 Ionawr 2011 (2011-01-25)
Iaith rhaglennu C++, Java, and Python
system weithredu Nodyn:Cross-platform
Llwyfan IA-32, x86-64, ARMel, ARMhf, MIPS, MIPSel, Sparc, S390, S390x, IA-64 (platfformau Debian ychwanegol)[1]
Cyfieithu parod 114 o ieithoedd, gan gynnwys Cymraeg[2]
Math Casgliad meddalwedd swyddfa
Trwydded GNU LGPLv3 gyda chyfraniadau newydd gyda trwydded deuol dan MPL 2.0[3]
Gwefan libreoffice.org

Mae LibreOffice yn gasgliad o feddalwedd i olygu amrywiaeth o ddogfennau swyddfa. Mae'n feddalwedd côd-agored ac mae ar gael am ddim mewn dros gant o ieithoedd, gan gynnwys y Gymraeg.

Sefydlwyd y Document Foundation gan rai o ddatblygwyr OpenOffice wedi i'r casgliad yno cael ei drosglwyddo gan Oracle i'r Apache Software Foundation yn 2010. Ers hynny, mae'r Apache OpenOffice a LibreOffice wedi parhau i ddatblygu'n annibynnol. Yn wahanol i Apache OpenOffice, mae'r gymuned o wirfoddolwyr tu gefn i LibreOffice yn cynnwys rhai sy'n parhau i gadw pob fersiwn newydd o'r meddalwedd ar gael yn Gymraeg.

Llinell amser o brif deilliaid StarOffice ac OpenOffice.org. Mae LibreOffice mewn gwyrdd.

Y gwahanol raglenni cynwysedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae LibreOffice yn gasgliad o wahanol raglenni sy'n cydweithio'n agos gyda'i gilydd i ddarparu'r nodweddion sydd i'w cael mewn casgliad arferol o feddalwedd swyddfa:

Modiwl Nodiadau
LibreOffice 6.1 Writer Icon.svg Writer Prosesydd geiriau tebyg i Microsoft Word a WordPerfect. Gall allforio ffeiliau Portable Document Format (PDF), a gall weithio fel golygydd WYSIWYG syml ar gyfer creu a golygu gwefannau.
LibreOffice 6.1 Calc Icon.svg Calc Taenlen tebyg i Microsoft Excel a Lotus 1-2-3. Gall Calc allforio taenlenni i'r fformat PDF.
LibreOffice 6.1 Impress Icon.svg Impress Rhaglen gyflwyno debyg i Microsoft PowerPoint ac Apple Keynote. Gall Impress allforio cyflwyniadau i ffeiliau (SWF) Adobe Flash, gan ganiatáu iddynt gael eu chwarae ar unrhyw gyfrifiadur gyda chwaraeydd Flash. Mae ganddo'r gallu i greu ffeiliau PDF, a'r gallu i ddarllen fformat .ppt Microsoft PowerPoint. Nid oes gan Impress ddewis o batrymluniau parod, ond mae modd lawr lwytho rhai am ddim.
LibreOffice 6.1 Base Icon.svg Base System rheoli cronfa ddata tebyg i Microsoft Access.
LibreOffice 6.1 Draw Icon.svg Draw Golygydd graffeg fector nid annhebyg i fersiynau cynnar o CorelDRAW a Microsoft Visio. Mae ganddo hefyd nodweddion tebyg i feddalwedd Cyhoeddi pen bwrdd fel Scribus a Microsoft Publisher. Gall allforio i fformat PDF.
LibreOffice 6.1 Math Icon.svg Math Teclyn ar gyfer creu a golygu fformiwla mathemategol, tebyg i Microsoft Equation Editor. Gellir ei fewnosod tu mewn i ddogfennau LibreOffice eraill. Mae'n cefnogi sawl ffont ac yn gallu allforio o fformat PDF.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni Allanol[golygu | golygu cod y dudalen]