Taenlen

Oddi ar Wicipedia
Taenlen LibreOffice Calc, sydd ar gael yn Gymraeg; 2019.
VisiCalc ar gyfrifiadur Apple II yn 1979.

Rhaglen gyfrifiadurol sy' gymorth i storio a rhoi trefn ar ddata yw taenlen (Saesneg: Spreadsheet); gwnâ hynny ar ffurf tabl. Datblygodd taenlenni o ffurf bapur, analog, a ddefnyddiwyd mewn cyfrifeg (accountancy) ers y 1970au.[1][2]

Mae'r rhaglen yn gweithio drwy archwilio data a fewnbynnir i gelloedd y daenlen; gall y wybodaeth ym mhob cell fod ar ffurf testun, rhif neu ganlyniad i fformiwla sy'n cyfrifo gwerthoedd yn otomatig. Gall y fformiwlâu hyn gymryd gwybodaeth o gelloedd eraill (neu daenlenni eraill) cyn trin a thrafod y wybodaeth o fewn y fformiwla, a'i allbynmu mewn cell arall.[3][4][5]

Ar wahân i fedru cyflawni swyddogaethau rhifyddeg sylfaenol a ffwythiannau mathemategol, mae taenlenni modern hefyd yn darparu is-raglenni sy'n unedau ffwythiannol parod ar gyfer cynorthwyo gweithgaredd sy'n ymwneud ag arian ac ystadegau. Ceir mynegiant amodol hefyd yn ogystal â ffwythiannau sy'n trosi testun, rhif a hyd yn oed lluniau neu graffeg e.e. "Os yw'r tymheredd (y rhif yng nghell A14) yn uwch na 21, yna rhodder y testun "Diffodd" yng nghell A32."

LANPAR, a ddyfeisiwyd yn 1969, oedd y daenlen gyntaf i weld golau dydd, ac fe'i gweithiwyd oddi fewn i gyfrifiaduron enfawr mainframe.[6] Y daenlen gyntaf ar y microgyfrifiadur (neu'r 'cyfrifiadur personol') oedd VisiCalc, a fu'n allweddol i boblogeiddio'r Apple II.[7] Ar y system weithredol DOS, Lotus 1-2-3 oedd y mwyaf poblogaidd yn y 1980au. Yna, tua 1995, daeth Excel yn fwy poblogaidd na Lotus, gan iddo fod yn rhan o'r pecyn 'Office' gan Microsoft, ac o fewn ychydig o flynyddoedd roedd y rhaglen daenlenni mwyaf poblogaidd, drwy'r byd.[8][9][10]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "spreadsheet". merriam-webster.com. Merriam-Webster. Cyrchwyd 23 Mehefin 2016.
  2. American Heritage Dictionary of the English Language (arg. 5th). Houghton Mifflin Harcourt Publishing Company. 2011. A software interface consisting of an interactive grid made up of cells in which data or formulas are entered for analysis or presentation.
  3. "spreadsheet". WhatIs.com. TechTarget. Cyrchwyd 23 Mehefin 2016.
  4. Beal, Vangie. "spreadsheet". webopedia. QuinStreet. Cyrchwyd 23 Mehefin 2016.
  5. "Spreadsheet". Computer Hope. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-06-21. Cyrchwyd 23 Mehefin 2016.
  6. Higgins, Hannah (2009-01-01). The Grid Book (yn Saesneg). MIT Press. ISBN 9780262512404.
  7. Charles Babcock, "What's The Greatest Software Ever Written?", Information Week, 11 Aug 2006. Accessed 25 Mehefin 2014
  8. Lewis, Peter H. (1988-03-13). "The Executive computer; Lotus 1-2-3 Faces Up to the Upstarts". NYTimes.com. The New York Times Company. Cyrchwyd 2012-10-14. Release 3.0 is being written in the computer language known as C, to provide easy transportability among PCs, Macs and mainframes.
  9. "Rivals Set Their Sights on Microsoft Office: Can They Topple the Giant? –Knowledge@Wharton". Wharton, University of Pennsylvania. Cyrchwyd 2010-08-20.
  10. "spreadsheet analysis from winners, losers, and Microsoft". Utdallas.edu. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-07-23. Cyrchwyd 2010-08-20.