Liber Pontificalis
| Enghraifft o: | gwaith llenyddol |
|---|---|
| Awdur | Anonymous (Book of pontiffs) |
| Iaith | Lladin |
| Genre | cofiant |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/04n08 |
Liber Pontificalis neu Llyfr y Pabau yw un o'r prif ffynonellau ar gyfer hanes cynnar Y Babaeth a'r Eglwys Gatholig, ynghyd â hanes yr Oesoedd Canol cynnar. Ond mae hanes testunol y llyfr, a ysgrifennwyd yn Lladin dros gyfnod hir o amser, yn gymhleth a rhaid i'r hanesydd drin ei dystiolaeth yn ofalus.
Mae'n cynnwys cyfres o erthyglau bywgraffyddol byr ar y Pabau hyd at ddiwedd y 9g, mewn trefn cronolegol, sy'n nodi blynyddoedd gwasanaeth pob pab (sy'n ein galluogi i weithio allan dyddiadau eu teyrnasiad), ei fan geni, rhieni, ymerodron cyfoes, adeiladau a godwyd (yn arbennig eglwysi yn Rhufain), pobl a ordeinwyd, datganiadau pwysig, man claddu, a'r amser fu'r babaeth yn wag cyn i'r pab nesaf gael ei ordeinio.
Yn ogystal ychwanegid nifer o erthyglau eraill yn yr Oesoedd Canol diweddar.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Raymond Davis, The Book of Pontiffs (Liber Pontificalis). Lerpwl: University of Liverpool Press, 1989 (cyfieithiad Saesneg heb nodiadau ysgolheigaidd).
- Raymond Davis, The Book of Pontiffs (Liber Pontificalis). Ail argraffiad. Lerpwl: University of Liverpool Press, 2000 (hyd at 715).
- Raymond Davis, "The Lives of the Eighth Century Popes" Lerpwl: University of Liverpool Press, 1992. 715 i 817.
- Raymond Davis, "The Lives of the Ninth Century Popes" Lerpwl: University of Liverpool Press, 1989. 817 i 891.
- Louise Ropes Loomis, The Book of Popes (Liber Pontificalis). Merchantville, NJ: Evolution Publishing (adargraffiad o argraffiad 1916. Hyd at Pelagius, 579-590. Cyfieithiad Saesneg gyda nodiadau ysgolheigaidd, a darluniau).