Liber Amoris

Oddi ar Wicipedia
Liber Amoris
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurWilliam Hazlitt Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1823 Edit this on Wikidata
Genrehunangofiant Edit this on Wikidata

Llyfr hunangofiannol gan yr ysgrifwr Seisnig William Hazlitt (1778–1830) yw Liber Amoris; or, The New Pygmalion a gyhoeddwyd gyntaf yn Saesneg ym 1823. Gwaith unigryw a phersonol iawn ydyw a ysgrifennwyd ar sail profiadau'r awdur o ymserchu yn Sarah Walker, merch ei landlord yn Llundain.

Ysgrifennir y llyfr ar ffurf llythyrau serch ac ymgomion rhwng Hazlitt a Sarah, a llythyrau Hazlitt at ei gyfeillion J. S. Knowles a P. Patmore. Mae hynt y stori yn dangos Sarah yn fflyrtio ar y cychwyn cyn cael ei dychryn i raddau gan y berthynas, ac o'r diwedd wedi blino ar sylw Hazlitt.

Derbyniodd Liber Amoris gerydd beirniadol yn ystod oes Hazlitt. Cafodd ei ystyried yn waith nas bwriedid ei gyhoeddi, yn rhyddiaith anghaboledig, ac yn peri embaras i'w awdur. Disgrifiad Thomas De Quincey o'r gwaith oedd "ffrwydrad o orffwylltra" (an explosion of frenzy).[1] Yn ddiweddar, mae ysgolheigion a beirniaid wedi rhoi mwy o sylw i Liber Amoris fel cofiant pwerus o ddioddefaint.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Margaret Drabble (gol.), The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen: Gwasg Prifysgol Rhydychen, 1995), tt. 577–78.