Lewis Casson

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Lewis Casson
StateLibQld 2 178175 Thorndike Family.jpg
Ganwyd 26 Hydref 1875 Edit this on Wikidata
Penbedw Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Mai 1969 Edit this on Wikidata (93 oed)
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Actor, peiriannydd, actor llwyfan Edit this on Wikidata
Priod Sybil Thorndike Edit this on Wikidata
Plant John Casson, Mary Casson, Ann Casson, Christopher Casson Edit this on Wikidata
Gwobr/au Croes filwrol Edit this on Wikidata

Actor a chynhyrchydd dramâu oedd Syr Lewis Casson (26 Hydref 187516 Mai 1969).

Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd ef yn Ffordd Alfred, Penbedw, Glannau Merswy (ond swydd Gaer yn hanesydol). Hannai Thomas Casson, ei dad, o Ffestiniog, Meirionnydd, a bu briod á Laura Ann (g. Holland-Thomas). Treuliodd Lewis rai blynyddoed yn Ysgol Ramadeg Rhuthun cyn cychwyn cynorthwyo Thomas ei dad, a fu hefyd yn rheolwr banc ac yn wneuthurwr organau. Yna mynychodd Lewis Casson y Coleg Technegol Canolog yn Ne Kensington cyn mynd i Goleg St. Mark, Chelsea i'w hyfforddi'n athro a derbyniodd dystysgrif addysg i'r pwrpas hwnnw.

Actio[golygu | golygu cod y dudalen]

Erbyn 1903 fodd bynnag, roedd yn actor proffesiynol ar lwyfan y Court Theatre gyda'r ddrama Man and Superman ac eraill. Yn fuan wedyn, yn 1907, ymunodd efo cwmni Miss Horniman yn Theatr y Gaiety ble cafodd gyfle i ddechrau cyfarwyddo rhai o'r dramáu. Yno daeth i gyfarfod á Sibyl Thorndike, ei ddarpar wraig, a phriododd y ddau yng Nghaint ar 22 Rhagfyr 1908. Cawsant bedwar o blant.

Y Rhyfel Byd Cyntaf[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwasanaethodd fel sarjiant yn y Rhyfel Byd Cyntaf gyda'r Amry Services Corps (1914-15) ac fel uwchgapten gyda'r Royal Engineers (1916-19). Anafwyd ef yn ystod y gyflafan, ac ennillodd y M.C. Wedi'r rhyfel dychwelodd i Lundain lle bu ef a'i wraig yn perfformio a chyfarwyddo mewn cynhyrchiadau niferus, fel St. Joan (1924). Roedd amser ganddynt i deithio rhyw ychydig, er enghraifft trwy Dde Affrica yn 1928, ac yn y Dwyrain Canol, Awstralia a Seland Newydd yn 1932. Bu'n cynhyrchu Henry V yn 1938 i Ivor Novello yn Drury Lane, a chyd-weithiodd gydag amryw o berfformwyr enwog eraill megis Lawrence Olivier a John Gielgud. Perfformiasant yng Nghymru hefyd y flwyddyn honno, gyda'r dramau Macbeth, King John, Candida, Medea a St. Joan. Ar ól cyflafan yr Ail Rhyfel Byd, teithiasant unwaith eto gan berfformio yng Nghaeredin, Efrog Newydd, y Dwyrain Canol, y Dwyrain Pell, India, Awstralasia ac Affrica. Ymddangosasant mewn drama gan Clemence Dane ar ddathliad eu priodas jiwbili, sef Eighty in the Shade (1959) a rhai cannoedd o rannau i actorion hyd at 1968.

Undeb Llafur yr Actorion[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd cyfraniad Lewis Casson fel arweinydd mudiad Undeb Llafur yr Actorion, yn sylweddol, a siaradai'n hyawdl o blaid y theatr. Dewiswyd ef yn llywydd y British Actors' Equity (1941–45) ac fe'i gwnaed yn farchog yn 1945. Hefyd fel arwydd o'i gyfranogiad i'r celfyddydau yn gyffredinol, cafodd dderbyn graddau er anrhydedd gan brifysgolion Glasgow (1954), Cymru (1959) a Rhydychen (1966).

Ymwelasant á'u tŷ ym Mron-y-garth, ger Borthygest, Porthmadog, weithiau, er mai yn Llundain yr oeddent wedi ymgartrefu. Gwerthwyd Bron-y-garth yn 1949 a bu farw Lewis Casson ar 16 Mai 1969.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Who's Who a Who Was Who (Oxford University Press, 2016)
  • John Casson, Lewis and Sibyl: A Memoir (1972)
  • The Times, 17 Mai 1969
  • Y Genhinen 27, (1977), tud. 26-7