Les Contes de ma mère l’Oye

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth Les Contes de ma mère l'Oye)
Jump to navigation Jump to search
Wynebddalen argraffiad 1867, llun gan Gustave Doré
Darlun o Charles Perrault yn yr 17g

Casgliad enwog o chwedlau gwerin traddodiadol a addaswyd gan y llenor Ffrengig Charles Perrault a'i gyhoeddi yn ei ffurf derfynnol yn 1697 yw Contes de ma mère l’Oye, ou Histoires ou contes du temps passé avec des moralités, a adnabyddir hefyd fel Les Contes de ma mère l’Oye - sef "Chwedlau fy Mam yr Ŵydd" - ac weithiau fel Contes de Perrault, sef Chwedlau Perrault). Casgliad o chwedlau gwerin ydyw, wedi eu casglu o ddeunydd llafar traddodiadol ond yn cael eu hadrodd o newydd gan yr awdur.

Y casgliad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r chwedlau a geir yn y gyfrol yn cynnwys rhai o'r chwedlau gwerin enwocaf heddiw, diolch, i raddau, i gyfieithiadau ac addasiadau diweddarach. Maent yn cynnwys:

Y deunydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae tarddiad rhai o'r chwedlau hyn yn hynafol ac yn perthyn i'r ystorfa ryngwladol o chwedlau gwerin. Yn achos rhai ohonynt ceir fersiynau ar draws Ewrasia - o Orllewin Ewrop i Tsieina a Siapan yn achos Sinderela, er enghraifft. Mae casgliad Perrault yn bwysig am ei fod yn cynrychioli'r cam cyntaf yn y broses a arweiniodd at droi'r hen chwedlau hyn ac eraill o'r un dosbarth yn ddeunydd "chwedlau Tylwyth Teg" i blant, gan eu hystumio a'u gweddnewid yn y broses (teg dweud nad oedd hynny yn fwriad gan Perrault).

Copiwyd ac addaswyd chwedlau Perrault gan awduron eraill a chafwyd sawl fersiwn ohonynt. Ond ychydig sy'n cymharu â chwedlau Perrault am symlrwydd naturiol ond urddasol eu naratif, eu diffyg moesoli a'u blas "cyntefig". Mae pawb yn gyfarwydd â hanes Hugan Goch Fach (Little Red Riding Hood) diolch i fersiwn y Brodyr Grimm a ffilmiau cartŵn, ond yn chwedl Perrault does dim achubiaeth yn ffurf y coedwr yn lladd y blaidd a'i fwyall: yn y chwedl gan Perrault mae'r nain - a Hugan Goch Fach ei hun hefyd, ym mreichiau'r blaidd ac yng ngwely'r nain druan - yn cael eu bwyta gan y Blaidd Mawr Drwg.

Testunau cyflawn ar Wikisource[golygu | golygu cod y dudalen]

Charles Perrault

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]