Lepcha
Enghraifft o'r canlynol | pobl |
---|---|
Mamiaith | Lepcha |
Poblogaeth | 50,000 |
Crefydd | Bwdhaeth, cristnogaeth, hindŵaeth |
Gwladwriaeth | India, Bhwtan, Nepal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
- Erthygl am y bobl yw hon. Am yr iaith gweler Lepcha (iaith).
Trigolion brodorol Sikkim (un o daleithiau India heddiw) yw'r Lepcha. Yn ogystal, ceir rhai pobl Lepcha yn byw dros y ffin yng ngorllewin Bhwtan, ardal Ilam yn nwyrain Nepal, ac ym mryniau Darjeeling yn nhalaith Indiaidd Gorllewin Bengal. Fe'i gelwir hefyd yn Rong, Rongke, neu Rongpa (Tibeteg).
Siaradent yr iaith Lepcha. Mae tua 150 llawysgrif Lepcha ar gael heddiw gyda'r hynaf yn dyddio o'r 17g.
Mae'r rhan fwyaf o'r Lepcha yn Fwdhyddion Tibetaidd o ran crefydd, ffydd a ddaeth i Sikkim a'r cylch gyda'r bobl Bhutia o dde Tibet, ac mae rhai yn Gristnogion. Mae rhai o blith y Lepcha yn dal i ddilyn eu crefydd shamanistaidd a adnabyddir fel Mun. Ond fel yn agos y grefydd Bön yn Nhibet, mae Mun a Bwdhaeth wedi'u cymysgu yng nghrefydd boblogaidd y werin ac weithiau mae'n anodd gwahaniaethu rhyngddynt.
Ceir tua 50,000 o Lepcha yn Sikkim a bryniau Darjeeling. Yn ôl cyfrifiad Nepal yn 2001, roedd yna 3,660 Lepcha yn Nepal, 88.80% yn Fwdhyddion a 7.62% yn dilyn Hindŵaeth.
Mae'r Lepcha yn gymdeithas batriarchaidd. Mae ei hagwedd tuag at rywioldeb yn eangfrydrig; dydy anffyddlondeb partner ddim yn bechod ac mae perthnasau rhywiol yn dechrau yn ifanc.
Mae gan y Lepcha llên gwerin gyfoethog. Yn ôl traddodiad, crëwyd y dyn a dynes Lepcha cyntaf gan Dduw o eira pur Kanchenjunga, mynydd uchaf Sikkim, ac mae gan y mynyddoedd, y bryniau, coedwigoedd a'r afonydd ran bwysig yn eu mytholeg.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- K. P. Tamsang, The Unknown and Untold Reality about the Lepchas (Lyangsong Tamsang, Kalimpong, 1983; ail argraffiad, 1998)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Ymchwil Archifwyd 2013-05-15 yn y Peiriant Wayback
- ethnologue.com