Leopoldo Marechal

Oddi ar Wicipedia
Leopoldo Marechal
Ganwyd11 Mehefin 1900 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mehefin 1970 Edit this on Wikidata
Buenos Aires Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ariannin Edit this on Wikidata
Galwedigaethysgrifennwr, dramodydd, academydd, bardd, llyfrgellydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Universidad Nacional de La Plata Edit this on Wikidata
Arddullbarddoniaeth, stori fer, nofel, traethawd, theatre Edit this on Wikidata
PlantMalena Marechal Edit this on Wikidata

Nofelydd, bardd, dramodydd, ac ysgrifwr Archentaidd yn yr iaith Sbaeneg oedd Leopoldo Marechal (11 Mehefin 190026 Mehefin 1970).[1] Mae'n nodedig am ei nofelau athronyddol ac am ei gyfraniadau at lên yr Ariannin yn hanner cyntaf yr 20g.

Ganwyd yn Buenos Aires, prifddinas yr Ariannin. Yn y 1920au, Marechal oedd un o'r garfan o lenorion ifainc yn y mudiad ultraísmo a gyhoeddasant y cylchgronau Martín Fierro a Proa. Mae ei gyfrol gyntaf o farddoniaeth, Aguiluchos (1922), yn defnyddio technegau modernismo i ymdrin â themâu bugeiliol. Mynegir estheteg ultraísmo gan drosiadau a delweddaeth ei gasgliadau o gerddi Días como flechas (1926) ac Odas para el hombre y la mujer (1929). Dylanwadwyd arno gan athroniaeth newydd-Blatonaidd yn ei farddoniaeth yn y 1930au: Cinco poemas australes (1937), Sonetos a Sophia (1940), ac El centauro (1940).

Ei gampwaith ydy'r nofel Adán Buenosayres (1948), gwaith cymhleth ac arddulliedig sy'n rhagflaenu'r "nofel newydd" yn llên America Ladin. O ran ei wleidyddiaeth, datblygodd Marechal o sosialydd i fod yn Beronydd pybyr, a gwasanaethodd mewn swyddi diwylliannol yn llywodraeth Juan Perón. Wedi cwymp Perón yn 1955, treuliodd Marechal ryw ddeng mlynedd yn byw o'r neilltu. Dychwelodd at sylw'r cyhoedd gyda'r nofelau El banquete de Severo Arcángelo (1965) a Megafón o la guerra (1970, gweithiau sy'n llawn archwiliadau mytholegol a delfrydyddol yr awdur. Bu farw yn Buenos Aires yn 70 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) Leopoldo Marechal. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 20 Mehefin 2019.