Laurie Kynaston

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Laurie Kynaston
Ganwyd 24 Chwefror 1994 Edit this on Wikidata
Amwythig Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaeth actor Edit this on Wikidata

Actor o Gymro yw Laurie Kynaston (ganwyd 24 Chwefror 1994).

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe'i ganwyd yn yr Amwythig a'i magwyd ar fferm yn Weston Rhyn, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr.[1] Mynychodd Ysgol Uwchradd Llanfyllin lle roedd yn weithgar gyda'r adran ddrama. [2]

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cychwynnodd ei yrfa broffesiynol ar lwyfan Clwyd Theatr Cymru pan oedd yn 19 mlwydd oed, yn chwarae bachgen ifanc yn The Winslow Boy.[3]

Ymddangosodd ar deledu am y tro cyntaf yn 2014 mewn pennod o Casualty.[2]. Yn 2015 ennillodd ei brif rhan cyntaf ar deledu yn chwarae rhan Danny Baker ifanc yn y gyfres ddrama hunangofiannol Cradle to Grave. Addaswyd y gyfres o straeon y cyflwynydd a DJ Danny Baker am ei blentyndod a ddogfennwyd yn ei hunangofiant Going to Sea in a Sieve.[4]

Ffilmyddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Ffilm[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2019 How to Build a Girl Krissi Morrigan Ffilm gomedi
2019 Intrigo: Dear Agnes Johannes Ffilm drosedd
2018 Undercliffe Stevie Prif Ran
2017 England is Mine Johnny Marr Ffilm fywgraffiadol am fywyd y canwr Morrissey
2017 Gloves Off Donny Ffilm gomedi
2016 Gutterdammerung The Kid
2015 They Found Hell Evan Ffilm deledu

Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2019 Glass Houses (ITV) Liam Myer Rhan rheolaidd
2019 The Split (BBC One) Will 2il gyfres
2019 The Feed (Amazon Prime Video) Jonah Rhan achlysurol - 4 pennod
2015 Cradle to Grave (BBC Two) Danny Baker Prif rhan yn y ddrama fywgraffiadol yn chwarae y Danny Baker ifanc
2016 Murder Games (BBC Three) Breck Bednar
2014 Our World War (BBC One) Milwr ifanc
2014 Casualty (BBC One) Ryan Pemberley 1 pennod

Theatr[golygu | golygu cod y dudalen]

Blwyddyn Teitl Rhan Nodiadau
2019 The Son Nicolas Kiln Theatre & Duke of York's, West End
2017 The Ferryman Oisin Carney Theatr Gielgud, West End
2016 Jumpy Josh Clwyd Theatr Cymru
2013 The Winslow Boy Ronnie Winslow Clwyd Theatr Cymru
2012 Torri Ffiniau/Beyond Borders Fairy King Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 'Like a bullet from a gun': Laurie Kynaston on playing a tormented teen , guardian.co.uk, 1 Medi 2019. Cyrchwyd ar 27 Tachwedd 2019.
  2. 2.0 2.1 Jonny Drury. Casualty role for ex-pupil (en) , newsnorthwales, 18 Mawrth 2014. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2016.
  3. Steve Stratford. Review: The Winslow Boy at Clwyd Theatr Cymru, Mold (en) , dailypost.co.uk, 9 Mai 2013. Cyrchwyd ar 29 Mehefin 2016.
  4. (Saesneg) Jack Alexander (4 Medi 2015). We chat exclusively to actor Laurie Kynaston. tmrwmagazine.com.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]