Last Letters from Hav

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Last Letters From Hav  
Awdur Jan Morris
Genre(s) Ffuglen wyddonol
Cyhoeddwr Random House
Dyddiad cyhoeddi 1985
ISBN 0-394-53262-7
Rhif OCLC 11518595

Mae Last Letters from Hav yn nofel a gyhoeddwyd yn 1985 gan yr awdur Jan Morris. Cafwyd y nofel ei hail gyhoeddi yn 2006 ynghyd a Hav of the Myrmidons

Crynodeb plot[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Last Letters from Hav yn naratif o ymweliad chwe mis mewn ymweliad a'r wlad ddychmygol, Hav. Mae'r nofel wedi ei hysgrifennu mewn arddull llenyddiaeth teithio. Mae'r nofel wedi ei strwythuro mewn dull episodig, gyda phob pennod yn cyd-fynd i fis a dreuliodd yr awdur yn Hav. Mae Hav ei hun yn benrhyn cosmopolitan annibynnol, wedi ei leoli rhywle yn nwyrain Môr y Canoldir. 

Genre[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Last Letters from Hav a'i ddilyniant Hav of the Myrmidons yn weithiau o lenyddiaeth ddychmygol. Mae Ursula K. Le Guin o'r farn fod y nofel yn waith o ffuglen wyddonol oherwydd y defnydd o ffuglen ddychmygol i fynd i'r afael a materion o wyddoniaeth gymdeithasol.

Gwobrau ac enwebiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Last Letters from Hav ei roi ar restr-fer ar gyfer Booker Prize for Fiction yn 1985.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]