La Cham des Bondons
Gwedd
Math | maen hir, safle archaeolegol |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Les Bondons |
Gwlad | Ffrainc |
Cyfesurynnau | 44.4°N 3.6°E |
Gwastadedd calchog ger llethrau de-orllewinol Mynydd Lozère, yn département Lozère yn ne Ffrainc yw'r Cham des Bondons. Mae rhyw 12 km o dref Florac.
Mae'n nodedig am y casgliad o 154 o feini hirion a geir yma o fewn tua 10 km sgwar. Dyma'r nifer mwyaf o feini hirion mewn un lle yn Ewrop ag eithio Karnag yn Llydaw. Credir eu bod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod Neolithig a dechrau Oes yr Efydd. Nid yw'r meini, o garreg gwenithfaen, wedi eu trefnu mewn patrwm megis rhai Carnac.
Mae archaeolegwyr yn dosbarthu'r meini mewn sawl grŵp:
- La Fage (dau grŵp)
- La Baraque de l'air
- La Vaissière
- Colobrières