La Cham des Bondons

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
La Cham des Bondons
Cham des Bondons Puech Mariette.jpg
Math maen hir, safle archaeolegol Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Les Bondons Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Ffrainc Ffrainc
Cyfesurynnau 44.4°N 3.6°E Edit this on Wikidata

Gwastadedd calchog ger llethrau de-orllewinol Mynydd Lozère, yn département Lozère yn ne Ffrainc yw'r Cham des Bondons. Mae rhyw 12 km o dref Florac.

Un o feini hirion y Cham

Mae'n nodedig am y casgliad o 154 o feini hirion a geir yma o fewn tua 10 km sgwar. Dyma'r nifer mwyaf o feini hirion mewn un lle yn Ewrop ag eithio Karnag yn Llydaw. Credir eu bod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod Neolithig a dechrau Oes yr Efydd. Nid yw'r meini, o garreg gwenithfaen, wedi eu trefnu mewn patrwm megis rhai Carnac.

Mae archaeolegwyr yn dosbarthu'r meini mewn sawl grŵp:

  • La Fage (dau grŵp)
  • La Baraque de l'air
  • La Vaissière
  • Colobrières
Tri maen hir yng ngrŵp Chabusse
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: