Kjósarhreppur
| Math | Cymunedau Gwlad yr Iâ |
|---|---|
| Poblogaeth | 301 |
| Pennaeth llywodraeth | Þorbjörg Gísladóttir |
| Cylchfa amser | UTC+00:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Reykjavík Fawr |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 284 km² |
| Yn ffinio gyda | Hvalfjarðarsveit |
| Cyfesurynnau | 64.3064°N 21.4992°W |
| Pennaeth y Llywodraeth | Þorbjörg Gísladóttir |
![]() | |


Bwrdeistref yng Ngwlad yr Iâ yw Kjósarhreppur, a elwir hefyd yn Kjós. Dyma ran fwyaf gogleddol Reykjavík Fawr neu'r Höfuðborgarsvæðið (Ranbarth y Brifddinas) fel y'i gelwir yn swyddogol.
Poblogaeth y fwrdeistref yw 221 a'i hardal yw 284 km sgwâr.
Gorolwg
[golygu | golygu cod]Ffinir Kjós i'r de-orllewin gan brifddinas Reykjavíkurborg ac i'r de gan Hvalfjörður. Yn y gogledd-ddwyrain mae'n ffinio â bwrdeistref Hvalfjarðarsveit ac yn y dwyrain ar gymuned Bláskógabyggð. Yn y dwyrain pell yw'r mynydd Botnssúlur, i'r de ohoni y llynnoedd Sandvatn a Myrkavatn, sy'n llifo i'r Öxará.
Lleolir llyn Meðafellsvatn yn gymharol ganolog yn y fwrdeistref.
Tu fewn i'r bwrdeistref mae cymoedd Miðdalur, Eilífsdalur, Flekkudalur, Eyjadalur, Laxárdalur, Svínadalur, Fossárdalur a Brynjudalur.
Traffig
[golygu | golygu cod]Mae'r ardal wedi'i gysylltu â'r Hringvegur (cylchffordd genedlaethol Gwlad yr Iâ) gan Ffordd rhif 47, sy'n rhedeg ar hyd Hvalfjörður. Mae Ffordd 48 yn cysylltu â Þingvallavegur, ffordd 36, o ran ogleddol yr ardal i'r de.
