Khabarovsk

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Baner dinas Khabarovsk.
Canol Khabarovsk.

Canolfan weinyddol a dinas fwyaf Crai Khabarovsk, Rwsia, yw Khabarovsk (Rwseg: Хабаровск). Daeth yn ganolfan weinyddol Dosbarth Ffederal y Dwyrain Pell Rwsia yn 2002. Hon yw ail ddinas fwyaf Dwyrain Pell Rwsia, ar ôl Vladivostok. Poblogaeth: 577,441 (Cyfrifiad 2010).

Lleolir y ddinas 30 cilometer (19 milltir) o'r ffin rhwng Rwsia a Gweriniaeth Pobl Tsieina, ar gymer Afon Amur ac Afon Ussuri, tua 800 cilometer (500 milltir) i'r gogledd o Vladivostok.

Mae hanes Khabarovsk yn dechrau yn yr 17g pan ymsefydlodd marsiandwyr Rwsiaidd yno. Daeth yn ddinas yn 1858.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Flag Russia template.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.