Kappazuri

Oddi ar Wicipedia
Kappazuri gan Urakusai Nagahide: Sakie o'r Hanabishiya

Printiau Siapaneaidd yw Kappazuri (hefyd kappa-zuri, kappazuri-e, a katagamizuri-e) a argraffir mewn un lliw (du fel arfer) gyda blociau pren ac a liwir gyda stensil wedyn. Gelwir printiau a wneir trwy stensilio yn unig, heb floc pren, yn 'kappazuri' hefyd. Ceir sawl enghraifft gan artistiaid ukiyo-e a shunga.

Er i nifer gael eu cynhyrchu yn Edo (Tokyo), cysylltir Kappazuri â phrintiau o Osaka a Kyoto yn bennaf. Y mwyaf cynhyrchiol o brintwyr kappazuri oedd yr arlunydd ukiyo-e Urakusai Nagahide, yn enwedig ei ddarluniau o'r wŷl geisha flynyddol yn ardal enwog Gion, yn Kyoto.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Lane, Richard, Images from the Floating World, The Japanese Print, Efrog Newydd, Putnam, 1978, 284.
  • Newland, Amy Reigle, The Hotei Encyclopedia of Japanese Woodblock Prints, Amsterdam, Hotei Publishing, 2005, Vol. 2, 453.
Eginyn erthygl sydd uchod am Japan. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato