Kanokon

Oddi ar Wicipedia
Clawr

Cyfres o nofelau ysgafn o Japan ydy Kanokon (かのこん) gan Katsumi Nishino, efo darluniau gan Koin. Cafod y nofel gyntaf ei rhyddhau yn Hydref 31 2005, ac erbyn Rhagfyr 2010 roedd 15 wedi cael eu cyhoeddi gan Media Factory dan label MF Bunko J. Talfyriad ydy Kanokon o Kanojo wa Kon, to Kawaiku Seki o Shite (彼女はこん、とかわいく咳をして). Cyhoeddwyd hefyd addasiad manga yn Monthly Comic Alive rhwng Awst 2006 ac Awst 2010. Yna daeth CD allan ar Fawrth 2007 a chyfres o 12 anime gan Studio Xebec ar deledu Japan rhwng Ebrill a Mehefin 2008.[1] a gafodd eu rhyddhau yng Ngogledd America. Cafwyd hefyd gêm "nofel weledol" o'r enw Kanokon Esuii wedi'i gynhyrchu gan 5pb. ar gyfer PlayStation 2 yng Ngorffennaf 2008.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Kanokon Romantic Comedy Light Novels Adapted for Anime". Anime News Network. 18 Tachwedd 2007. Cyrchwyd 2 Chwefror 2007.