Julia Quinn

Oddi ar Wicipedia
Julia Quinn
Ganwyd26 Hydref 1966 Edit this on Wikidata
Greenville, Pennsylvania Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Alma mater
  • Prifysgol Talaith Louisiana Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfreithiwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
Swyddaelod o senedd talaith Louisiana Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Weriniaethol Edit this on Wikidata

Awdur poblogaidd, Americanaidd yw Julia Quinn, enw-awdur Julie Pottinger (ganwyd 1970). Y genre a ddefnyddir ganddi gan amlaf yw'r rhamant hanesyddol.[1] Mae Pottinger yn ystyried ei hun yn ffeminist ac yn rhoi rhinweddau ffeministaidd i harwresau ei nofelau, gan newid ffeithiau hanesyddol i ffuglen hanesyddol.

Ganed Julie Cotler (enw-awdur yw Julia Quinn) yn Unol Daleithiau America yn 1970. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Harvard ac Ysgol Hotchkiss.

Hyd at 2019 roedd ei nofelau wedi'u cyfieithu i 29 o ieithoedd tramor, ac mae wedi ymddangos ar Restr Bestseller y New York Times 19 o weithiau.[2] Yng Ngorffennaf 2018, cyhoeddwyd y byddai Shonda Rhimes yn addasu ei chyfres Bridgerton ar gyfer Netflix.[3]

Magwraeth a choleg[golygu | golygu cod]

Magwyd Julie Pottinger yn New England yn bennaf, er iddi dreulio llawer o'i hamser yng Nghaliffornia ar ôl i'w rhieni ysgaru. Hyd yn oed fel plentyn bychan ymddiddorai mewn llyfrau ac ysgrifennu.[4]

Graddiodd Pottinger o Harvard gyda gradd mewn Hanes Celf. Yn ystod ei blwyddyn uwch yn y coleg, sylweddolodd nad oedd yn gwybod beth yr oedd am ei wneud gyda'i gradd a phenderfynodd fynychu ysgol feddygol. Roedd y penderfyniad hwnnw'n ei gwneud yn ofynnol iddi fynychu dwy flynedd ychwanegol yn y coleg i gwblhau'r rhagofynion gwyddoniaeth sy'n angenrheidiol i wneud cais am ysgol feddygol.[2]

Yr awdur[golygu | golygu cod]

I ddiddori ei hun yn ystod ei chwrs, dechreuodd Pottinger ysgrifennu nofelau rhamant Regency. Ychydig wythnosau ar ôl iddi gael ei derbyn i ysgol feddygol, darganfu fod ei dwy nofel gyntaf, Splendid a Dancing At Midnight, wedi cael eu gwerthu mewn ocsiwn, digwyddiad anarferol i awdur rhamant newydd.[5] Gohiriodd yr ysgol feddygol am ddwy flynedd tra ysgrifennodd ddwy nofel arall.[4]

Erbyn i Pottinger fynd i Ysgol Feddygaeth Iâl i wireddu ei breuddwyd o fod yn feddyg, roedd tri o'i llyfrau wedi'u cyhoeddi. Ar ôl dim ond ychydig fisoedd byr o astudio meddygaeth, fodd bynnag, sylweddolodd Pottinger ei bod yn well ganddi ysgrifennu! Gadawodd yr ysgol feddygol a ymroddodd ei hun yn llwyr i'w gwaith ysgrifennu.[4]

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Hyd at Gorffennaf 2019

Splendid[golygu | golygu cod]

  • Splendid (1995)
  • Dancing At Midnight (1995)
  • Minx (1996)
  • "A Tale of Two Sisters" in Where's My Hero? (2003, antholeg gyda Lisa Kleypas a Kinley MacGregor)

Lyndon Sisters[golygu | golygu cod]

  • Everything And The Moon (1997)
  • Brighter Than The Sun (1997)

Agents of the Crown[golygu | golygu cod]

  • To Catch An Heiress (1998)
  • How To Marry A Marquis (1999)

Cyfres Bridgerton[golygu | golygu cod]

  • The Duke and I (2000)
  • The Viscount Who Loved Me (2000)
  • An Offer From A Gentleman (2001)
  • Romancing Mister Bridgerton (2002)
  • To Sir Phillip, With Love (2003)
  • When He Was Wicked (2004)
  • It's In His Kiss (2005)
  • On the Way to the Wedding (2006)
  • The Bridgertons: Happily Ever After (2013)[6]

Two Dukes of Wyndham[golygu | golygu cod]

  • The Lost Duke of Wyndham (2008)
  • Mr. Cavendish, I Presume (2008)[7]

Cyfres Bevelstoke[golygu | golygu cod]

  • The Secret Diaries of Miss Miranda Cheever (2007)
  • What Happens in London (2009)
  • Ten Things I Love About You (2010)

Smythe-Smith quartet[golygu | golygu cod]

  • Just Like Heaven (2011)
  • A Night Like This (2012)
  • The Sum of All Kisses (2013)
  • The Secrets of Sir Richard Kenworthy (2015)

Rokesby series[golygu | golygu cod]

  • Because of Miss Bridgerton (2016)[8]
  • The Girl with the Make-Believe Husband (2017)[9]
  • The Other Miss Bridgerton (2018)

Lady Whistledown[golygu | golygu cod]

  • "Thirty-Six Valentines" yn The Further Observations of Lady Whistledown (2003)
  • "The First Kiss" yn Lady Whistledown Strikes Back (2004)

The Lady Most. . .[golygu | golygu cod]

  • The Lady Most Likely. . . (2010)
  • The Lady Most Willing. . . (2012)

Arall[golygu | golygu cod]

  • "Gretna Greene" yn Scottish Brides (1999)
  • ". . . and a Sixpence in Her Shoe" yn Four Weddings and a Sixpence (2016)

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Grossman, Lev (3 Chwefror 2003). "Rewriting the Romance". Time. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 19 Mehefin 2012. Cyrchwyd 3 Ebrill 2007. Unknown parameter |deadurl= ignored (help); Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  2. 2.0 2.1 "About Julia". Julia Quinn Official Website. Cyrchwyd 2012-06-03.
  3. www.shondaland.com; adalwyd 17 Gorffennaf 2019.
  4. 4.0 4.1 4.2 White, Claire E. (1998). "A Conversation with Julia Quinn". Writers Writes. Cyrchwyd 2007-04-03.
  5. "Julia Quinn Makes her own Destiny". Romantics at Heart. 1996. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-05-09. Cyrchwyd 2007-04-03. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. "The Bridgertons: Happily Ever After from Julia Quinn". Julia Quinn Official Website. Cyrchwyd 2013-08-19.
  7. "FAQ". Julia Quinn Official Website. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-19. Cyrchwyd 2012-06-03. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. Lamb, Joyce (February 22, 2016). "Exclusive excerpt: 'Because of Miss Bridgerton' by Julia Quinn". USA Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-06. Cyrchwyd 5 Hydref 2016.
  9. "The Girl with the Make-Believe Husband – Julia Quinn – Paperback". HarperCollins. Cyrchwyd 5 Hydref 2016.