Josiane Kartheiser

Oddi ar Wicipedia
Josiane Kartheiser
Ganwyd28 Tachwedd 1950 Edit this on Wikidata
Differdange Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lwcsembwrg Lwcsembwrg
Galwedigaethbeirniad llenyddol, ysgrifennwr, newyddiadurwr, awdur plant Edit this on Wikidata
TadRené Kartheiser Edit this on Wikidata

Awdures o Lwcsembwrg yw Josiane Kartheiser (ganwyd 28 Tachwedd 1950) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel beirniad llenyddol, newyddiadurwr ac awdur plant. Yn yr Almaeneg mae'n sgwennu fel arfer, ac weithiau mewn Lwcsembwrgeg.[1][2]

Fe'i ganed yn Differdange (Déifferdeng) yn ne-orllewin Lwcsembwrg ar 28 Tachwedd 1950.[3][4]

Graddiodd Kartheiser o ysgol ferched Lycée des jeunes filles yn Ninas Lwcsembwrg. Rhwng 1971 a 1974, astudiodd lenyddiaeth Saesneg ac America ym Mhrifysgol Caint yng Nghaergaint (Canterbury). Ar ôl gweithio fel newyddiadurwr llawrydd, dysgodd Lwcsembwrgeg ym Mhrifysgol Sheffield ac yng Nghanolfan Ieithoedd, Lwcsembwrg hyd nes iddi ymddeol yn 2010. Cyfrannodd i eiriadur Ffrangeg-Lwcsembwrg-Saesneg - Parler luxembourgeois – Esou schwätze mir – Living Luxemburgish a bu'n gyfrannwr rheolaidd i nifer o bapurau newydd Lwcsembwrg gan gynnwys Lëtzebuerger Journal, Tageblatt a Le Jeudi.[1]

Er 1978 cyhoeddodd Kartheiser straeon byrion a thraethodau, barddoniaeth, dramâu, beirniadaeth lenyddol a gweithiau ar gyfer plant.[1]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Llyfrau
  • 1978: flirt mit fesseln
  • 1989: wenn schreie in mir wachsen
  • 1981: Linda
  • 1988: D’Lästermailchen
  • 1989: Luxembourg City
  • 1993: Wohlstandsgeschichten
  • 1996: Als Maisie fliegen lernte
  • 2000: Das Seepferdchen
  • 2002: Allein oder mit anderen
  • 2004: Cornel Meder. Ein Porträt
  • 2005: De Marc hätt gär Paangecher
  • 2007: Mäi léiwen Alen!
  • 2009: Hutt Dir och en Holiday Consultant?
  • 2011: Geld oder Liewen!?
  • 2013: Entführe nicht deines Nächsten Weib
  • 2014: Die Shabby Chic Tote
  • 2014: Gees de mat?
  • 2015: Kauf dir doch ein Leben!
Plant
  • 2004: De Maxi an de Geschichtenerzieler
  • 2012: Dem Lou säin abenteuerleche Summer
Dramâu
  • 1983: De Kontrakt
  • 1985: Härgottskanner


Aelodaeth[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gyngor Parhaol Lwcsembwrg am rai blynyddoedd.

Anrhydeddau[golygu | golygu cod]


Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 "Josiane Kartheiser" (yn French). Dictionnaire des auteurs luxembourgeois. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-02. Cyrchwyd 1 Mawrth 2015.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. "Josiane Kartheiser" (yn Almaeneg). LSV. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-12-30. Cyrchwyd 1 Mawrth 2015.
  3. Dyddiad geni: "Josiane Kartheiser".
  4. Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 11 Rhagfyr 2014