José Enrique Rodó
José Enrique Rodó | |
---|---|
Ganwyd | 15 Gorffennaf 1871 Montevideo |
Bu farw | 1 Mai 1917 Palermo |
Dinasyddiaeth | Wrwgwái |
Galwedigaeth | llenor, bardd, athronydd |
Swydd | Member of the Chamber of Representatives of Uruguay |
Adnabyddus am | Ariel |
Arddull | traethawd |
Plaid Wleidyddol | Plaid Colorado |
Athronydd, beirniad llenyddol, ac ysgrifwr o Wrwgwái yn yr iaith Sbaeneg oedd José Enrique Rodó (15 Gorffennaf 1871 – 1 Mai 1917). Roedd yn un o aelodau La Generación del 900 ac yn rhan o fudiad modernismo. Mae'n nodedig am ei lyfr Ariel (1900), gwaith modernaidd sy'n amddiffyn yn erbyn tra-arglwyddiaeth ddiwyllianniol Ewrop a'r Unol Daleithiau, a ddylanwadodd ar y meddylfryd diwylliannol a deallusol ar draws America Ladin. Ystyrir Rodó yn athronydd goreuaf gwledydd Sbaeneg yr Amerig, a'r ffigur pwysicaf yn llên Wrwgwái.
Ganwyd ym Montevideo, a threuliodd y rhan helaeth o'i oes yno. Brodor o Gatalwnia oedd ei dad. Ymddisgleiriodd José yn ei astudiaethau llên ac hanes yn yr ysgol, a mynychodd Prifysgol y Weriniaeth, er iddo hefyd addysgu ei hunan fel darllenwr brwd yn y llyfrgell.[1]
Cyd-sefydlodd y cylchgrawn Revista nacional de literatura y ciencias sociales yn 1895. Penodwyd Rodó yn athro llenyddiaeth ym Mhrifysgol y Weriniaeth yn 1898, ac addysgodd yno nes 1902. Gwasanaethodd hefyd yn gyfarwyddwr Llyfrgell Genedlaethol Wrwgwái. Cynrychiolodd Partido Colorado yn Siambr y Dirprwyon yn 1902–05 ac yn 1908–14.[2]
Cyhoeddodd ei gampwaith, yr ysgrif hir Ariel, yn 1900. Ymhlith ei gasgliadau eraill o ysgrifau mae Motivos de Proteo (1908) ac El mirador de Próspero (1913).
Teithiodd Rodó i Ewrop yn 1916 fel gohebydd tramor ar gyfer papurau newydd ym Montevideo a Buenos Aires. Bu farw yn Palermo, Sisili, yn 45 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "José Enrique Rodó" yn Encyclopedia of World Biography (Gale, 2004). Adalwyd ar 29 Ebrill 2019.
- ↑ (Saesneg) Peter G. Earle, "Rodó, José Enrique (1871–1917)" yn Encyclopedia of Latin American History and Culture (Gale, 2008). Adalwyd ar 29 Ebrill 2019.
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- Mario Benedetti, Genio y figura de José Enrique Rodó (1966).
- D. A. Brading, Marmoreal Olympus: José Enrique Rodó and Spanish American Nationalism (Caergrawnt: Center for Latin American Studies, University of Cambridge, 1998).
- Wilfredo Penco, José Enrique Rodó (Montevideo: Arco, 1978).
- Víctor Pérez Petit, Rodó: Su vida, su obra (1937).
- Pablo Rocca, Enseñanza y teoría de la literatura en José Enrique Rodó (Montevideo: Ediciones de la Banda Oriental, 2001).
- Norma Suiffet, José Enrique Rodó: Su vida, su obra, su pensamiento (Montevideo: Ediciones de la Urpila, 1995).