Jorf

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Harbwr Jorf.

Tref arfordirol yn Nhiwnisia yw Jorf (Arabeg: الجُرْف ). Fe'i lleolir yn ne Tiwnisia tua 450 km i'r de o'r brifddinas Tiwnis. Mae'n borthladd gyda gwasanaeth fferi sy'n cysylltu ynys Djerba a'r tir mawr. Mae'n gorwedd yn nhalaith Medenine.

Tua 20 km i'r de o Jorf ceir safle dinas hynafol Gigthis, a sefydlwyd gan y Ffeniciaid ac a ddaeth yn borthladd prysur yng nghyfnod yr Ymerodraeth Rufeinig.

Flag of Tunisia-2.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Diwnisia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.