John Philpot Curran

Oddi ar Wicipedia
John Philpot Curran
Portread o John Philpot Curran gan Thomas Lawrence (1799).
Ganwyd24 Gorffennaf 1750 Edit this on Wikidata
Newmarket, County Cork Edit this on Wikidata
Bu farw14 Hydref 1817 Edit this on Wikidata
Brompton Edit this on Wikidata
DinasyddiaethGweriniaeth Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfreithegwr, gwleidydd, bardd, bargyfreithiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod Seneddol yn Senedd Iwerddon, Aelod o Gyfrin Gyngor yr Iwerddon Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolIrish Patriot Party Edit this on Wikidata
TadJames Curran Edit this on Wikidata
MamSarah Philpot Edit this on Wikidata
PriodSarah Creagh Edit this on Wikidata
PlantAmelia Curran, Sarah Curran, Richard Creagh Curran, Emily Curran, Eliza Odella Curran, Gertrude Sarah Curran, James Curran, John Bartholomew Curran, William Henry Curran, John Philpot Curran, Henry Grattan Curran Edit this on Wikidata

Gwleidydd, cyfreithiwr, ac areithydd Gwyddelig oedd John Philpot Curran (24 Gorffennaf 175014 Hydref 1817).[1]

Ganed ef yn Newmarket, Swydd Corc, yn Nheyrnas Iwerddon. Efrydydd diog ydoedd yn ei ieuenctid, ond hyfforddodd yn y gyfraith a chafodd ei alw i'r Bar ym 1775. Parodd ei arabedd a'i huodledd iddo gael ei gyflogi at rai o achosion cyfreithiol hynotaf y dydd. Ym 1783, etholwyd ef i'r senedd Wyddelig dros Kilbeggan. Daeth yn gefnogwr i Henry Grattan, ond ni phrofodd ei huodledd mor effeithiol ar lawr y senedd ag yn llysoedd y gyfraith. Bu ei dafod miniog yn foddion i'w ddwyn i aml helynt, ac ymladdodd bum gornest heb niwed.

Er yn Brotestant, yr oedd ganddo, fel eraill o wladgarwyr Gwyddelig, gydymdeimlad mawr â'r Catholigion. Torodd y gwrthryfel Gwyddelig allan ym 1798, ond aflwyddodd. Yna, erlynwyd yr arweinwyr, ond amddiffynnwyd hwy gyda'r fath allu, nerth, a phenderfyniad gan Curran, fel y gwnaed ef yn anwyl-ddyn gan ei gyd-ynyswyr, ac y sicrhawyd iddo anrhydedd mawr. Bu farw yn Llundain yn 67 oed, yn un o Wyddelod enwocaf ei oes.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) John Philpot Curran. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Tachwedd 2021.