Neidio i'r cynnwys

John Leland

Oddi ar Wicipedia
John Leland
Ganwyd13 Medi 1502 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Bu farw18 Ebrill 1552 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethllyfrgellydd, hanesydd, archeolegydd, topograffwr Edit this on Wikidata

Hynafiaethydd o Loegr oedd John Leland (13 Medi c. 150318 Ebrill 1552).

Ganed ef yn Llundain rywbryd tua 1502 neu 1506, ac astudiodd yng Ngholeg Crist, Caergrawnt lle graddiodd yn 1521. Bu'n astudio yng Ngholeg yr Holl Eneidiau, Rhydychen, gan ganolbwyntio ar Roeg, yna bu'n astudio ym Mharis.

Yn ddiweddarach bu'n diwtor i'r Aglwydd Thomas Howard, mab Dug Norfolk. Ordeiniwyd ef, a daeth yn gaplan i Harri VIII, brenin Lloegr, a roddodd y teilt o Hynafiaethydd Brenhinol iddo. Yn 1533 comisiynodd y brenin ef i deithio o gwmpas llyfrgelloedd eglwysi cadeiriol a mynachlogydd i gofnodi hynafiaethau, a threuliodd y cyfnod 1540 hyd 1546 yn teithio trwy Loegr a Chymru yn cofnodi popeth o ddiddordeb hynafiaethol. Cyflwynodd y canlyniadau i'r brenin dan y teitl New Year's Gift, a gyhoeddwyd gan John Bale yn 1549.

Dywedir iddo ddioddef afiechyd meddyliol o 1547, a chyhoeddwyd ef yn wallgof yn 1550. Roedd yn parhau yn wallgof pan fu farw yn 1552.

Cedwir ei nodiadau yn Llyfrgell y Bodleian, ac maent yn ffynhonnell werthfawr ar gyfer hanes lleol, gan gynnwys agweddau ar hanes lleol Cymru; noda Leland fod glo yn cael ei losgi ar aelwydydd Caerfyrddin yn 1537, er enghraifft.[1] Cyhoeddwyd The Itinerary of John Leland, Antiquary, gan Thomas Hearne mewn naw cyfrol yn 1710, ac ail argaffiad wedi ei ehangu a'i gywiro yn 1745.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. John Davies, Hanes Cymru, tud. 251.