John Breynton

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Parch Dr John Breynton
Rev John Breynton
Ganwyd 1719
Trefeglwys, Sir Drefaldwyn, Cymru
Bu farw 15 Gorffennaf 1799(1799-07-15) (80 oed)
Edgware Road, Llundain
Cenedl Prydeinig
Crefydd Church of England
Priod
  • Elizabeth Wade (with issue) (pr. 175078)
  • Mary Gerrish née Cradock (pr. 177999)
Plant
  • Mary Breynton
  • Anne Breynton
  • John Breynton
  • Henry Edward Breynton

Roedd y Parchedig Dr John Breynton (Ebrill 1719, Trefeglwys, Sir Drefaldwyn15 Gorffennaf 1799, Edgware Road, Paddington, Llundain) yn weinidog enwog yn Halifax, Nova Scotia, Canada.

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Bedyddiwyd ar 13 Ebrill 1719, a treuliodd ei 14 mlynedd cyntaf rhwng ei gartref yn Nhrefeglwys ac ysgol yn Y Drenewydd. O 1733 hyd at 1738, mynychodd Ysgol Amwythig, ag ym 1738, cafodd ei dderbyn i Coleg Magdalene, Caergrawnt, yn dilyn hyn fe dderbyniodd Gradd baglor ym 1741.[1] Yn y flwyddyn olynol, cafodd ei ddirprwyo'n gaplan yn Y Llynges Frenhinol.

Erbyn 1745, roedd yn gaplan ar long rhyfel yn ystod gwahanol ymrwymiadau rhwng y gwarchae ar Louisbourg, Nova Scotia. Ym 1750, derbyniodd Gradd meistr o Gaergrawnt, a priododd Elizabeth Wade yn Eglwys Santes Fair a Sant Michael, Trumpington, Swydd Gaergrawnt. Fe'i anfonwyd gan y Gymdeithas er Lledaenu Gwybodaeth Gristnogol neu'r Gymdeithas Hybarch i gynorthwyo yn Eglwys Sant Paul, Halifax, Nova Scotia o dan argoelion da yr Esgob o Lundain, tra dychwelodd y rheithor William Tutty i Lundain ar gyfer busnes personol, yn ystod y daith yma bu farw Tutty ym 1754. Cymerodd Breynton drosodd fel genhadwr a gweinidog, neu rheithor, yn Eglwys Sant Paul ym 1754.

Yng nghynt, ym 1753, fe sefydlwyd yr ysgol di-dal cyntaf yn Nova Scotia.[2] Ym 1760, fe wnaeth cysegredig "St George's 'Little Dutch' Church" - yr eglwys ail hynaf yn Halifax,[3] o ganlyniad, ddaeth yn rhugl yn Almaeneg. ym 1770, dyfarnwyd gradd anrhydeddol Doctor o Ddwyfoldeb iddo gan Prifysgol Rhydychen.[4] Dychwelodd i Lundain yn ystol 1771-1772 er mwyn casglu ei radd, ond aeth yn ol wedi hynny i barhau gyda'i waith yn Halifax. Erbyn 30 Hydref 1776, roedd yn Gaplan i Garfan Brenhiniol Amddiffynnwyr America.

Ar 13 Medi 1778, bu farw ei wraig gyntaf, yn fuan cyn priodas eu merch cyntaf Anne, yn Eglwys Sant Siôr, Sgwar Hanover ar yr 28ain o Dachwedd 1778.

Erbyn 6 Medi 1779, fel gweddw, fe ail-briododd a parhaodd fel rheithor Eglwys Sant Paul, Halifax. Mae'n debyg bu iddo ddychwelyd i Lundain gyda'i ail wraig yn fuan ar ol 1785, gan barhau i dderbyn ei dal o Halifax o £190 tan iddo ymddeol a cael ei ailosod ym1791. Oherwydd ei allu yn Almaeneg, mae'n debyg iddo fod yn gaplan i'r Brenhines Charlotte. Arhosodd yn Llundain tan ei farwolaeth ym 1799.

Priododd Breynton ddwywaith:

Yn gyntaf, fe briododd Elizabeth Wade (bu farw ar 13 Medi 1778, Halifax, Nova Scotia), ar 8 Medi 1850 yn Eglwys Santes Fair a Sant Michael, Trumpington Swydd Gaergrawnt, gyda'r disgynyddion

  1. Mary Breynton (CIR 1753-1795), priodwyd ar 19 Awst 1775, Halifax, Nova Scotia, i'r Captain John Watson
  2. Anne Breynton (1755–1829), priodwyd ar 28 Tachwedd 1778, Sant Siôr, Hanover Square, Llundain, i Francis Perceval Eliot
  3. John Breynton (1756–1843), priodwyd ar 9 Ionawr 1793, Eglwys Santes Fair, Lichfield i Elizabeth Cotton
  4. Henry Edward Breynton (1759–1761)

Fe ail-briododd y gweddw, Mrs Mary Gerrish née Cradock (18 Mai 1723, Boston, Massachusetts, Unol Daleithiau America - Rhagfyr 1806 LichfieldSwydd Stafford, Lloegr), ar 9 Medi 1779 yn Halifax, Nova Scotia, heb ddisgynyddion. Roedd hi'n ferch i George Cradock a'i wraig Mary née Lyde o Boston, Massachusetts, ag yn weddw i Joseph Gerrish (Boston, Massachusetts 1709–1774 Halifax, Nova Scotia), a'i briododd ym 1768 Halifax, Nova Scotia.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]