John Albert Jones
Gwedd
John Albert Jones | |
---|---|
Ganwyd | 20 g |
Bu farw | 8 Tachwedd 2017 |
Cenedlaetholwr Cymreig, un o sefydlwyr Mudiad Amddiffyn Cymru, ac un o Dri Tryweryn oedd John Albert Jones (bu farw 2017).
Roedd yn hanu o Rydyclafdy ger Pwllheli. Treuliodd gyfnod yn gwasanaethu gyda'r Awyrlu Brenhinol, ond bu'n rhaid iddo adael ar ôl dioddef damwain. Roedd wedi gweithio fel peintiwr ar hyd ei oes, ac yn dad i 10 o blant.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Un o dri osododd fom ar argae Tryweryn wedi marw", BBC (10 Tachwedd 2017). Adalwyd ar 7 Rhagfyr 2017.