Joan Petchey

Oddi ar Wicipedia
Joan Petchey
Ganwyd15 Hydref 1920 Edit this on Wikidata
Truru Edit this on Wikidata
Bu farwMehefin 1990 Edit this on Wikidata
Pluw Austel Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCernyw Edit this on Wikidata
Galwedigaethathro Edit this on Wikidata
Ynganiad: Joan Petchey

Joan Eileen Petchey (17 Hydref 1920 – Mehefin 1990) oedd arweinydd adfywiad yr iaith Gernyweg ar lafar. Athrawes Ffrangeg a Chernyweg oedd hi. Yn boliticaidd roedd hi'n gefnogwr Mebyon Kernow.

Ganwyd hi ar yr 17eg o Hydref 1920 yn Truru. Ei thad, William, oedd yn labrwr i saer pren; enw ei mam oedd Lillian (née Williams). Yn 1939 roedd hi'n byw yn Chelsea, Llundain gyda'u rhieni ble roedd hi'n gweithio fel teipyddes i Swyddfa Tollau Tramor a Chartref. Yn 1958, roedd hi'n byw yn yn Battersea gyda'i mam.

Roedd hi'n ddynes alluog, rhugl iawn, gyda chymeriad cryf. Roedd tân yn ei chalon ynglŷn â'r iaith. Elizabeth Carne, Bardh Meur (Archdderwydd), a ddywedodd amdani "roedd hi'n fenyw o fri, benyw ardderchog am siarad Cernyweg". Ar un achlysur, fe wnaeth hi godi cywilydd ar Bardh Meur Gunwyn yn ei seremoni urddo drwy siarad ag ef yn rhugl, ond ynte heb y gallu i siarad yn rhugl.

Wella Brown, yr ieithydd, a ddysgodd ganddi yn Liskeard pan oedd yn astudio rhag ei arholiad gradd gyntaf. Yn yr 1960au, hi a drefnodd 'an Kylgh Keltek', grwp o bobl o'r chwe gwlad Geltaidd oedd yn ysgrifennu at ei gilydd yn yr ieithoedd Celtaidd. Roedd hyn yn bwysig i'r rhai oedd yn astudio Cernyweg oherwydd nad oedd y rhyngrwyd yn yr pryd yna. Hi oedd trefnydd ysgol haf yn Truru pob mis Awst pan oedd hi'n byw yna.

Cafodd ei hurddo fel bardd yn 1950 yng nghylch meini Boscawen Un. Ei henw barddol oedd "Elowen"[1] - Cernyweg ar gyfer y llwyfen Ulmus procera. Bu farw Elowen yn mis Mehefin 1990, yn St Austell. Dywedodd Nicholas Williams, yr ieithydd, "pan fu farw hi, roeddwn yn gwybod bod yr iaith Gernyweg wedi colli un o'i chymeriadau mwyaf balch".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Bardic Roll" (PDF). Gorsedh Kernow. Cyrchwyd 17 Rhagfyr 2021.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Joan Petchey - Elowen (Youtube)