Jalisa Andrews

Oddi ar Wicipedia
Jalisa Andrews
Ganwyd1994 Edit this on Wikidata
Port Talbot Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Actores a chantores o Gymraes yw Jalisa Andrews (ganwyd 1994).

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganwyd a magwyd Jalisa Eiluned Catherine Andrews ym Mhort Talbot. Mae ei mamgu yn hannu o Jamaica ac fe symudodd i Gymru yn 1959/1960.

Aeth Jalisa i Ysgol Gymraeg Ystalyfera Bro Dur ac fe'i magwyd yn siarad Cymraeg gyda'i mamgu a dadcu.[1]

Aeth i Ysgol Lwyfan Mark Jermin lle'r oedd yn canu a dawnsio. Enillodd ysgoloriaeth i astudio theatr gerdd yng ngholeg Laine Theatre Arts, Epsom, gan raddio yn 2016.[2]

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ers gadael y coleg bu'n perfformio mewn nifer o sioeau cerdd a phantomeimau. Cymerodd ran yng nghyfres 'camera cudd' Wyt Ti’n Gêm ar S4C yn 2017.

Yn 2019, perfformiodd yn y ddrama deledu The Left Behind a gynhyrchwyd ar gyfer BBC Three a'i ddangos ar BBC One.[3]

Yn Hydref 2020 i ddathlu Mis Hanes Pobl Dduon, ymddangosodd yng nghyfres Chwedloni yn adrodd stori ei theulu a sut maen nhw wedi rhoi cyfleoedd bywyd iddi.[4]

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Priododd Ebony Roberts ym mis Mawrth 2020, yn Abertawe.[5][6] Mae'r cwpl yn rhedeg gwersi drama 'Academy Arts' ym Mhort Talbot.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  "Why are people surprised that I speak Welsh?". BBC Wales (12 Chwefror 2020). Adalwyd ar 18 Hydref 2020.
  2.  Spotlight: JALISA ANDREWS. Spotlight. Adalwyd ar 18 Hydref 2020.
  3.  On making The Left Behind: 'We've plugged into the mains' (9 Gorffennaf 2019). Adalwyd ar 18 Hydref 2020.
  4.  Chwedloni: Jalisa Andrews. S4C (8 Hydref 2020). Adalwyd ar 18 Hydref 2020.
  5. Rise in lenders valuing homes below sale price , BBC News, 22 Gorffennaf 2018. Cyrchwyd ar 18 Hydref 2020.
  6.  "Iv just married the love of my life and I couldn’t be happier @itsebonyphoenix Swansea waterfront museum, Saturday the 14th of March 2020" (15 Mawrth 2020). Adalwyd ar 18 Hydref 2020.
  7.  Ty'r Cwmniau - ACADEMY ARTS BY EBONY & JALISA LTD. Tr; Cwmniau. Adalwyd ar 18 Hydref 2020.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]