Jacobitiaeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Jacobitiaid)
Jacobitiaeth
Enghraifft o'r canlynolmudiad gwleidyddol Edit this on Wikidata
GwladwriaethTeyrnas Prydain Fawr, Teyrnas Iwerddon Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Charles Edward Stuart, "Bonnie Prince Charlie"

Jacobitiaeth yw'r term a ddefnyddir am y mudiad gwleidyddol oedd yn anelu at ddychwelyd aelodau o deulu brenhinol y Stiwartiaid i orsedd Lloegr a'r Alban (gorsedd Prydain Fawr). Daw'r enw o Jacobus, y ffurf Ladin ar enw Iago II & VII, brenin Lloegr a'r Alban.

Cefndir[golygu | golygu cod]

Diorseddwyd Iago II/VII yn 1688, a bu raid iddo ffoi i'r cyfandir. Yn ei le, daeth ei ferch, Mari II a'i gŵr Wiliam III (Wiliam o Orange) i'r orsedd. Wedi ei marwolaeth hwy, daeth Anne, un arall o ferched Iago II/ VII, yn frenhines. Bu hi farw yn 1714, a daeth Etholwr Hannover yn frenin fel Siôr I. Roedd un arall o blant Iago II/ VII, James Francis Edward Stuart, yn byw ar y cyfandir, ond gan ei fod yn Gatholig, caewyd ef allan o'r olyniaeth. Hawliai ef yr orsedd fel Iago III/ VIII. Roedd cefnogaeth i deulu'r Siwartiaid yn parhau yn gryf yn Iwerddon, Ucheldiroedd yr Alban a rhannau o Ogledd Lloegr. Roedd hefyd rywfaint o gefnogaeth i'r mudiad yng Nghymru.

18fed ganrif[golygu | golygu cod]

Gwnaed ymgais i ddychwelyd y Stiwartiaid i'r orsedd yn 1715, ond methodd yr ymdrech wedi i'r fyddin Jacobitaidd fethu gorchfygu byddin y llywodraeth ym Mrwydr Sheriffmuir; roedd gwrthryfel byrhoedlog yn 1719 yn aflwyddiannus hefyd. Bu ymgyrch arall yn 1745, pan laniodd mab Iago III/ VIII, Charles Edward Stuart, (Bonnie Prince Charlie) yn Ucheldiroedd yr Alban a chodi byddin. Cafodd ei ddilynwyr nifer o lwyddiannau, ond gorchfygwyd hwy ym Mrwydr Culloden.

Er fod cryn nifer o Jacobitiaid yng Nghymru, nid ymddengys i fawr o Gymry gymeryd rhan yn ymgyrch 1745. Dywedir i Charles yn ddiweddarach, wrth sôn beth a wnâi dros y Jacobitiaid Cymreig, ddweud "Mi yfaf iechyd da iddyn nhw - dyna'r cyfan wnaethon nhw i mi".

Ffuglen[golygu | golygu cod]

Mae'r nofel Pen yr Yrfa (nofel fuddugol Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bangor 1931) gan Morris Thomas yn dilyn hynt a helynt Cymry Jacobinaidd o Wynedd ac yn cynnwys disgrifiad o Frwydr Culloden.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]