Jürgen Conings
Jürgen Conings | |
---|---|
Ganwyd | 28 Medi 1974 Maaseik |
Bu farw | Unknown o anaf balistig Dilserbos |
Dinasyddiaeth | Gwlad Belg |
Galwedigaeth | milwr, security guard, professional fitness coach, terfysgwr |
Plaid Wleidyddol | Flemish Interest |
Milwr o Wlad Belg oedd Jürgen Conings (ganed 28 Medi 1974) a aeth ar ffo yn 2021 i wrthwynebu ymateb llywodraeth Gwlad Belg i bandemig COVID-19. Fe'i cyhuddwyd o gipio celc o arfau, gan gynnwys pistol, gwn peiriant a lansiwr rocedi, o'i farics yn Peutie, Brabant Fflandrysaidd, ar 17 Mai 2021 a mynd ar ffo. Gadawodd neges i'w gariad yn mynegi gwrthwynebiad i'r cyfnod clo a orfodwyd yn ystod y pandemig, yn cyhuddo'r llywodraeth o ddweud celwyddau, ac yn honni ei fod yn "ymuno â'r gwrthsafiad" yn erbyn y gwleidyddion a'r arbenigwyr gofal iechyd. Anfonodd hefyd lythyr at yr heddlu yn datgan ei fwriad i ladd Marc Van Ranst, prif firolegydd Gwlad Belg.
Cyn aeth ar ffo, roedd Conings yn hyfforddwr saethu, ac yn aelod o'r blaid genedlaetholgar Vlaams Belang.[1] Cafodd ei fonitro gan yr asiantaethau cudd-wybodaeth ar sail amheuaeth ei fod yn eithafwr adain-dde.[2]
Wedi iddo ffoi o Peutie, canfuwyd ei gar ger Parc Cenedlaethol Hoge Kempen yn nhalaith Limburg, a chredir iddo symud i'r gogledd, drwy ardal Beringen i fwrdeistref Pelt a'r ffin â'r Iseldiroedd. Ar 21 Mai, wedi chwiliad ysgubol o goedwig Hoge Kempen, datganodd yr awdurdodau eu bod wedi dod o hyd i wersyllfa dros dro Conings, ond heb ganfod y dyn ei hun.[2] Ar 22 Mai cyhoeddodd Interpol warant ryngwladol i arestio Conings am "fygythio cyrch terfysgol ar unigolion a'r llywodraeth".[3] Rhoddwyd Marc Van Ranst a'i deulu mewn caethiwed gwarchodol gan yr heddlu nes i Conings gael ei ddal.[2] Mae heddluoedd a lluoedd arfog yr Iseldiroedd, yr Almaen, a Lwcsembwrg[4] i gyd wedi cynorthwyo'r helfa ar ôl Conings.[5]
Ar 20 Mehefin 2021 cafwyd hir i gorff ym Mharc Hoge Kempen, ger tref Dilsen-Stockemon, a dybir ei fod yn Jürgen Conings, wedi saethu ei hun yn farw. Canfuwyd y corff gan faer y dref gyfagos Maaseik.[6]
Bu rhai pobl yng Ngwlad Belg, yn enwedig yn Fflandrys, yn cydymdeimlo ag achos Conings ac yn lleisio cefnogaeth iddo ar-lein ac yn gyhoeddus.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Iseldireg) Bruno Struys, "Voortvluchtige extremist Jürgen Conings had partijkaart van Vlaams Belang", De Morgen (1 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 6 Mehefin 2021.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Helen Lyons, "The hunt for Jürgen Conings: a timeline", The Brussels Times (5 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 6 Mehefin 2021.
- ↑ (Saesneg) "Red Notice: CONINGS, JURGEN – Wanted by Belgium", Interpol. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol] drwy gyfrwng archive.is ar 6 Mehefin 2021.
- ↑ https://www.nieuwsblad.be/cnt/dmf20210520_95474989
- ↑ 5.0 5.1 (Saesneg) Nick Gutteridge, "Army hunts Belgian soldier with scientist in his sights", The Times (5 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 6 Mehefin 2021.
- ↑ (Saesneg) "Belgium: Body found in search for fugitive far-right soldier", BBC (20 Mehefin 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 20 Mehefin 2021.