Ivy League
| Enghraifft o: | cymdeithas athletaidd golegol |
|---|---|
| Rhan o | NCAA Division I |
| Dechrau/Sefydlu | 1954 |
| Yn cynnwys | Prifysgol Columbia, Prifysgol Brown, Prifysgol Princeton, Prifysgol Cornell, Coleg Dartmouth, Prifysgol Harvard, Prifysgol Pennsylvania, Prifysgol Yale |
| Gwladwriaeth | Unol Daleithiau America |
| Gwefan | https://www.ivyleaguesports.com |
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/03v_m |
| Quora | The-ivy-league |

Cymdeithas athletaidd golegol sy'n cynnwys timau chwaraeon o wyth prifysgol breifat yng ngogledd-ddwyrain yr Unol Daleithiau yw'r Ivy League ("Cynghrair Eiddew"). Mae'r enw hefyd yn cael ei ddefnyddio yn gyffredin i gyfeirio at yr wyth sefydliad fel grŵp y tu hwnt i gyd-destun chwaraeon. Dyma'r wyth prifysgol: Prifysgol Brown, Prifysgol Columbia, Prifysgol Cornell, Coleg Dartmouth, Prifysgol Harvard, Prifysgol Pennsylvania, Prifysgol Princeton a Phrifysgol Yale. Yn aml, mae gan y term "Ivy League" arwyddocâd o ragoriaeth academaidd ac elitiaeth gymdeithasol.
Defnyddiwyd y term "Ivy League" yn answyddogol yn y 1930au, ond defnyddiwyd yn swyddogol am y tro cyntaf ym 1945 ar gyfer cystadleuaeth bêl-droed Americanaidd rhwng yr wyth prifysgol. Ffurfiwyd y gynghrair yn ei ffurf bresennol, sy'n cynnwys pob math o chwaraeon rhyng-golegol, ym 1954.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol